Cyhoeddi cyflwynwyr Radio Cymru Mwy

Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi manylion cyflwynwyr eu gorsaf dros dro digidol ‘Radio Cymru Mwy’ heddiw, gyda nifer o enwau cyfarwydd yn gyfrifol am raglenni.

Ymysg yr enwau amlycaf mae Ifan Evans, Caryl Parry Jones a Dylan Ebenezer. Ond efallai’n fwy diddorol i ddarllenwyr Y Selar, bydd Huw Stephens yn ran o’r cynllun yn ogystal ag Elan Evans o’r ddeuawd DJs o Gaerdydd Elan a Mari, a hefyd yr artist theatr ac un o ffrindiau’r Selar, Gwennan Mair.

Bydd Radio Cymru Mwy yn darlledu bob bore am gyfnod o dri mis gan ddechrau ar 19 Medi, gydag addewid i ganolbwyntio ar gerddoriaeth a sgyrsiau hwylus.

Yn ôl y cyhoeddiad heddiw, bydd rhaglenni llawn cerddoriaeth ar ddyddiau Mawrth a Iau a bydd Gwennan Mair wrth y llyw rhwng 10:00 a 12:00 ar ddyddiau Mercher.

Lleisiau newydd ac arlwy ddifyr

Bu’r Selar yn holi bos cerddoriaeth Radio Cymru, Gareth Iwan Jones, am y cynllun ac mae’n addo arlwy gerddorol ‘ddifyr’ ar y gwasanaeth newydd.

“Mi fydd ‘na gwpl o raglenni difyr iawn yn y maes cerddoriaeth” meddai Gareth Iwan.

“Mi fydd DJ Elan o Clwb a Sam Rhys, gynt o Castro [y grŵp o Sir Gâr] yn leisiau newydd yn cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth newydd.”

“Yn nes ymlaen fe fydd Carwyn Ellis yn cyflwyno rhaglenni thematig, yn cynnwys rhai ar synths cynnar ac un ar draddodiadau canu harmonïau.”

Rydym ar ddeall bod cynlluniau hefyd i wahodd pobl amrywiol i greu rhestrau chwarae ar adegau penodol, ac wrth i ni ddathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Moldofa neithiwr, gallwn ddatgelu y bydd Ian Gwyn Hughes ac Osian Roberts yn darlledu eu dewisiadau cerddorol ar y diwrnod bydd Cymru’n herio Georgia fis Hydref. Tybed a fydd ‘Push it’ gan Salt–n-Pepa ac ‘Ain’t Nobody’ gan Chaka Khan ymysg eu dewisiadau?! [un fach i’r darllenwyr sy’n dilyn y tîm cenedlaethol – gol.]

Bydd modd clywed y gwasanaeth newydd ar wefan Radio Cymru, ar app BBC iPlayer Radio ac ar radio digidol DAB y de ddwyrain.

Gallwch ddilyn newyddion diweddaraf yr arbrawf ar dudalen Facebook Radio Cymru Mwy ac ar ffrwd trydar y gwasanaeth newydd.