Cyhoeddi dyddiad rhyddhau albwm CaStLeS

Mae’r grŵp seicadelig amgen o’r gogledd, CaStLeS wedi cyhoeddi dyddiad rhyddhau eu halbwn cyntaf.

Wrth sgwrsio gyda’r grŵp ar ddechrau’r haf daeth yn amlwg i’r Selar eu bod eisoes wedi recordio albwm llawn, ac yn chwilio am label i ryddhau’r record.

Maen nhw bellach wedi cyhoeddi bydd y casgliad, sy’n dwyn yr enw Fforesteering, yn cael ei ryddhau ar 18 Tachwedd.

Roedd y band yn llwyddiannus gyda chais i gronfa lansio cynllun Gorwelion ar gyfer costau recordio’r albwm.

Cyn i’r albwm ymddangos, bydd y grŵp yn rhyddhau’r sengl ‘Amcanu’ ar 4 Tachwedd, ac mae’r gân eisoes ar gael i’w ffrydio ar Soundcloud…a fel mae’n digwydd dyma gân yr wythnos ‘Pump i’r Penwythnos’ Y Selar yr wythnos hon!

Mae CaStLeS wedi addo rhoi gwybod i’r Selar pan fydd mwy o drefniadau lansio’r albwm wedi eu cadarnhau, felly cadwch olwg yma ar y wefan am y newyddion diweddaraf.