Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoedd rhestrau byr dau gategori arall Gwobrau’r Selar eleni.
Bu i ni ddatgelu dwy restr fer gyntaf y gwobrau wythnos yn ol, sef ‘Record Hir Orau’ a ‘Hyrwyddwr Gorau’.
Y rhestr fer gyntaf i’w cyhoeddi yr wythnos yma ydy categori hynod gystadleuol ‘Band neu Artist Newydd Gorau’, sy’n cael ei noddi gan gynllun Gorwelion. Gwyliwch y fideo hyfryd isod gan griw Ochr 1 i weld pwy sydd wedi cyrraedd y rhestr fer o dri eleni:
Ein ail restr fer yr wythnos hon ydy categori pwysig ‘Gwaith Celf Gorau’, sy’n cael ei noddi gan Y Lolfa. Gwyliwch y fideo isod i weld pa gloriau hyfryd hardd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni:
Mae tocynnau noson Wobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar werth nawr ac yn gwerthu’n gyflym. Mae’r cynnig pris cynnar o £12 yn dod i ben nos Sul yma, 31 Ionawr, a bydd y pris yn codi i’r pris llawn o £15 wedi hynny. Cliciwch yma am fanylion ble gallwch brynu tocyn