Mae HMS Morris, fel un o grwpiau mwyaf diddorol a chyffrous Cymru, yn gyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Selar ers peth amser bellach ac yr wythnos hon maen nhw’n rhyddhau ei halbwm cyntaf, Interior Design.
Yn ogystal â bod yn un o 12 artist cynllun Gorwelion llynedd, roedden nhw ar glawr Y Selar ym mis Mehefin 2015, ac fe wnaethon nhw berfformio yng Ngwobrau’r Selar nôl ym mis Chwefror eleni.
Yn eu cyfweliad yn y cylchgrawn llynedd fe wnaethon nhw ddatgelu eu bod nhw wedi gorffen recordio eu halbwm cyntaf, ac yn gobeithio y byddai’n cael ei ryddhau yn yr hydref. Pam felly ei bod hi flwyddyn yn ddiweddarach cyn i’r record hir weld golau dydd?
“Wel ma’ pethe da yn dod i bobl amyneddgar” meddai Heledd Watkins, basydd a phrif ganwr y grŵp tri aelod wrth Y Selar gyda’i thafod yn ei boch.
“Ma’ ‘na siwt gymaint o recordiau anhygoel gan fandie’ anhygoel yn cael eu hanwybyddu oherwydd diffyg marchnata a threfnu ac oedden ni am geisio’n gore’ i wneud yn siŵr fod hynny ddim yn digwydd i Interior Design.”
“Dwi ddim yn credu fod lot o bobl yn deall faint o waith ac arian mae’n cymryd i ryddhau albwm. Fe fuon ni’n treulio lot o amser yn ceisio am grantiau i gyfro’r costau ac yn y diwedd fe fuon ni’n lwcus iawn i gal grant gan Gyngor y Celfyddydau i’w wario ar farchnata’r albwm a ffilmio’r fideos, ac ar ôl hynny fe ddechreuodd pethe symud tipyn yn gyflymach.”
Ac o’r diwedd mae’r dyddiad rhyddhau wedi cyrraedd, sef dydd Gwener yma 18 Tachwedd.
Parsel pert
Mae’r albwm i gyd, ar wahan i’r dryms a recordiwyd yn Monnow Valley, wedi’i recordio yn stiwdio Keep Recording, sef stiwdio cynhyrchydd y record, Tom Manning.
Gyda’r albwm ar y gweill ers cyhyd, a hwythau’n grŵp sy’n gigio’n rheolaidd, nid yw’n syndod clywed bod y casgliad yn un cyfarwydd i ffans HMS Morris.
“Os i chi wedi bod yn bobl hyfryd a di dod i’r gigs ma’ ‘na siawns fyddwch chi wedi clywed pob cân ond nid pob cân sydd wedi bod ar y radio” meddai Heledd.
“Mae’n deimlad neis casglu’r caneuon i ni wedi bod yn chware’n fyw am flynyddoedd efo’i gilydd mewn un lle, fel un parsel i ddanfon allan i’r byd.”
Bydd unrhyw un sydd wedi gweld HMS Morris yn fyw dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf yn falch iawn o allu agor y parsel hir-ddisgwyliedig hwnnw, a chael bod yn berchen ar y caneuon sydd heb os wedi dal eu dychymyg.
Mae’n amlwg bod rhyddhau’r albwm a’r ôl-gatalog yn rhyw fath o gatharsis i’r triawd amgen, ond i ba raddau mae’r grŵp yn barod nawr i gamu i’r cyfnod nesaf yn eu hanes a chyflwyno caneuon newydd i’r gynulleidfa?
“D’yn ni ddim wir yn stopio ysgrifennu, ma’ ‘na wastad syniadau newydd yn cael eu taflu’n ôl ac ymlaen rhwng y tri ohonom ni.”
“Ma’ ‘na rai erbyn hyn sydd wedi’u gorffen a rhai wedi eu lled orffen. Ry’n ni’n mynd i ddiflannu am fis neu ddau wedi i’r albwm gael ei ryddhau er mwyn perffeithio a dewis sengl efallai i’w rhyddhau yn y gwanwyn.”
Roedd cyfle olaf i bobl glywed yr ‘hen set’ fel petai yn ystod mis Hydref, gan godi chwant ar gyfer yr albwm newydd. Yn ôl Heledd, does dim cynlluniau pellach i gigio o gwmpas y dyddiad rhyddhau, ac mae’r grŵp yn hytrach yn bwriadu cymryd saib o berfformio’n fyw.
“Does yna ddim cynlluniau eraill ar hyn o bryd, dim ond cymryd yr amser i ysgrifennu. Ry’n ni di bod yn gigio flat-out ers 2014, ry’n ni’n haeddu tamed bach o hoe dros y Nadolig fi’n credu.”
Delwedd yn dal sylw
Un peth sy’n amlwg iawn i unrhyw un sydd wedi gweld y band yn perfformio’n fyw ydy bod delwedd HMS Morris yn bwysig iawn i’r triawd ac mae hynny’n amlwg i unrhyw un sydd wedi gweld deunydd hyrwyddo eu gigs diweddar a’r albwm.
“Ry’n ni’n hoffi cael tipyn o hwyl efo delwedd a gwisgoedd, dyw e ddim yn rhywbeth i’w gymryd yn rhy ddifrifol.”
“Rwy’n hoffi’r syniad o fand neu artist yn trawsnewid delwedd efo pob record neu hyd yn oed efo pob gig, mae’n cadw pethe’n ddiddorol. Ry’ch chi’n gweld siwt gymaint o fandiau ac artistiaid sy’n edrych ‘run peth neu’n dilyn trends ffasiwn y pryd. Dyw hyn ddim yn siwtio HMS Morris dwi ddim yn credu.”
“Ma na themâu yn rhedeg drwy’r caneuon ac yn aml mae’r themâu yn dylanwadu’r gwisgoedd. Cawn ni weld pa fath o ddelwedd fydd yn datblygu efo’r record nesa.”
Byddwn ni’n sicr yn edrych ymlaen at weld pa ddanteithion gwych a gwallgof i’r glust ac i’r llygad fydd gan HMS Morris i’w cynnig yn y dyfodol, ond am y tro mae’n werth gwerthfawrogi’r hyn maen nhw wedi cyflawn hyd yma ar Interior Design.
Mae Interior Design allan ddydd Gwener 18 Tachwedd, gyda chopïau caled i’w harchebu ar-lein yn y lle cyntaf ac i’w dosbarthu mewn siopau amrywiol yn fuan.
Geiriau: Owain Schiavone