Gyda dim ond 36 o ddilynwyr i’w gyfrif Twitter, a cwta 6 yn ei ddilyn ar Soundcloud hyd yma, mae’n bosib mai Tusk ydy un o’r cyfrinachau cerddorol gorau yng ngogledd Nghymru ar hyn o bryd.
Prosiect y cerddor Arron Hughes o Fethel ger Bangor ydy Tusk ac fe ddaeth Y Selar ar draws ei gerddoriaeth ym mis Medi, gan ddewis Tusk fel artist yr wythnos ‘Pump i’r Penwythnos’.
Ers hynny rydan ni wedi bod yn cadw golwg fanwl ar y prosiect, ac roedden ni’n gyffrous iawn i glywed fod EP cyntaf Tusk allan yr wythnos hon.
Enw’r EP ydy Alligator a bydd ar gael i’w lawr lwytho’n rhad ac am ddim ar safle Bandcamp Tusk o ddydd Gwener 18 Tachwedd ymlaen.
Rydan ni hefyd wedi bod yn sgwrsio gydag Arron i ddysgu mwy am y prosiect.
“Dwi wedi bod yn ysgrifennu a recordio cerddoriaeth ers blynyddoedd erbyn hyn, di bod mewn ambell i fand efo ffrindia’ dros y blynyddoedd, ond heb neud llawar” meddai Arron wrth drafod ei gefndir cerddorol.
“Nes i gychwyn rhoi stwff allan o dan yr enw Tusk oherwydd mod i’n sgwennu a recordio cymaint a jyst meddwl fysa’n syniad i rannu’r stwff efo mwy o bobl, a gweld be fysa’r ymateb.”
“Prosiect unigol ydi o ar y funud, ond dwi bob tro’n cadw golwg am gerddorion fyswn i’n hoffi gweithio efo nhw.”
Llais cyfarwydd
Yn wir, mae un o’r caneuon sydd wedi bod ar safle Soundcloud Tusk sef ‘Mantra’ yn esiampl dda o hynny gan fod llais cyfarwydd iawn ar y trac, llais Iwan Fôn, canwr Y Reu.
“Dwi di nabod Iwan ers blynyddoedd erbyn hyn” eglura Arron.
“’Da ni bob tro ‘di bod yn jamio efo’n gilydd a sôn am roi rhywbeth allan , ond heb ddod rownd at neud unrhyw beth. Pan nes i chwarae ‘Mantra’ iddo fo, odd y trac yma’n teimlo fel yr un berffaith i wneud hynny, felly nath o roi’r vocals i lawr a nath o droi allan yn grêt.”
Ydy, mae ‘Mantra’ heb os yn grêt, gyda llais Iwan yn priodi’n berffaith â synau pop electroneg amgen Tusk. Er hynny, heblaw am y trac hwnnw, does dim cyfraniadau ganddo efo, nag unrhyw un arall ar yr EP cyntaf.
Efallai bod hynny’n addas gan fod Tusk yn brosiect DIY go iawn – mae Arron yn cyfansoddi a recordio popeth yn ei stiwdio fach ei hun yn ei ‘stafell wely.
“Ia, nes i recordio’r EP i gyd adra. Ma gen i stiwdio wedi’i osod fyny yn fy ‘stafell wely sydd ar wahân i’r tŷ felly ga’i recordio mewn i oria’ mân y bora!”
Barod i gigio
Er bod hwn yn brosiect DIY, does ‘na ddim byd sy’n ymdebygu i fflatpac Ikea yn y sain, sy’n broffesiynol iawn. Ac o sgwrsio gydag Arron, mae’n amlwg ei fod yn gwbl o ddifrif ynglŷn â’i gerddoriaeth, ac mae wedi rhoi tipyn o feddwl i’r EP.
“Mae pob trac ar yr EP yn wahanol iawn i’w gilydd mewn ffordd, ond eto mae ‘na rwbath yn rhedag trwy pob un sy’n eu gludo nhw efo’i gilydd, ac yn gwneud iddyn nhw weithio fel darn cyfan o waith.”
“Mae ‘na sŵn gwahanol i bron bob trac, ond ma’r dylanwadau yn ddigon clir i’w gweld fyswn i’n ddeud.”
Mae’n debyg mai rhan o’r rheswm bod cyfrinach y prosiect yn un mor gudd ar hyn o bryd ydy’r ffaith nad ydy Tusk wedi perfformio’n fyw i gynulleidfa eto, ond dywed Arron ei fod yn dechrau ystyried gigio wrth gael blas ar y cyfansoddi.
“Dwi heb chwarae dim un gig dan yr enw Tusk. I gychwyn, jyst prosiect recordio’n unig oedd o am fod, ond y mwy a mwy dwi’n meddwl ac yn ysgrifennu, y mwy a mwy dwi’n teimlo fel chwara’n fyw.”
“Os fysa ‘na gigs yn cael eu cynnig, yna fyswn i’n rhoi band at ei gilydd a gweld sut fysa fo’n gweithio.”
Dyna chi felly drefnwyr gigs Cymru – band newydd diddorol iawn yn chwilio am gigs!
Am y tro, does gan Tusk ddim cynlluniau ar gyfer lansiad Alligator heblaw ei ryddhau’n ddigidol i’r byd a gweld sut ymateb sydd.
“Does ‘na ddim byd wedi cal ei drefnu ar gyfer yr EP yma” meddai Arron
“Dwi’n ei roi o allan am ddim fel sampler o be sydd gen i i’w gynnig.”
“Dwi’n gweithio ar yr un [EP] nesa’n barod, dibynnu sut ma’r ymateb i hon. Ella fydd ‘na bach mwy o ddigwyddiad rownd rhyddhau’r un nesa’, ac ella copi caled….dyna fyswn i’n hoffi gweld yn digwydd.”
A dyna’n sicr fyddai’r Selar yn hoffi gweld yn digwydd – o’r hyn rydan ni wedi’i glywed hyd yma, mae cerddoriaeth Tusk yn llawer rhy dda i gael ei anwybyddu a does dim amheuaeth bydd y gyfrinach yn cael ei datgelu’n fuan iawn.