Dechrau Taith Haf Y Bandana

Fel Bryn Fôn yn Sioe Llandysul, a Chwis Pop Y Selar bnawn dydd Sadwrn olaf y Steddfod, mae taith haf Y Bandana bellach yn un o draddodiadau’r sin.

Mae’r pedwarawd o aral Y Felinheli, a ryddhaodd eu halbwm diweddaraf – Fel Tôn Gron – ym mis Mawrth eleni, yn parhau â’r traddodiad eto eleni.

Dechreuodd y daith neithiwr gyda gig yn Nhafarn y Gwachel, Pontardawe, ac yn parhau heno yng Ngŵyl Nôl a Mlân, Llangrannog.

Byddan nhw’n perfformio mewn 8 gig arall dros yr wythnos nesaf, a’r cyfan yn dod i ben ym Mhentref Ieuenctid Sioe Amaethyddol Cymru nos Sul 17 Gorffennaf.

Dyma’r daith yn llawn:

08/07/16 – Tafarn y Gwachel, Pontardawe

09/07/16 – Gŵyl Nôl a Mlân, Llangrannog

10/07/16 – Gŵyl Arall, Caernarfon

12/07/16 – Ysgol y Berwyn, Y Bala

13/07/16 – Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug

13/07/16 – Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst

14/07/16 – Ysgol y Strade, Llanelli

15/07/16 – Ysgol y Gader, Dolgellau

16/07/16 – Penmaenau, Llanfair-ym-Muallt

17/07/16 – Pentref Ieuenctid, Llanfair-ym-Muallt