Diwedd label Peski

Mae un o labeli Cymraeg pwysicaf y ddegawd a mwy diwethaf, Peski, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dod i ben.

Ers sefydlu yn 2003, mae’r label wedi bod yn gyfrifol am ryddhau cynnyrch gwych ac amgen gan artistiaid fel Jakokoyak, Texas Radio Band, Radio Luxembourg, Y Pencadlys, Cate Le Bon a llawer iawn mwy.

Yn ddiweddar maen nhw wedi bod yn bennaf gyfrifol am lwyddiant aruthrol Gwenno, gan ryddhau ei halbwm Y Dydd Olaf yn wreiddiol cyn i label Heavenly ei ryddhau’r record a enillodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig llynedd.

Datgelwyd y newyddion gan Rhys Edwards, un o sylfaenwyr y label, wrth iddo sgwrsio â Huw Stephens ar ei raglen C2 nos Lun. Bydd y label yn dod i ben gyda noson Peskinacht ym mis Mehefin.

“Mi wnaethon ni gyrraedd un blwyddyn lle nethon ni ryddhau deg cynnyrch, gan gynnwys albwm Gwenno, a dwi’n meddwl nath hynny wthio ni dros y dibyn” meddai Rhys ar y rhaglen.

“Ma rhedeg label bach fel gwneud marathon a mae o mor hawdd colli yr holl egni yna a ti’n gorfod rili pace-io dy hun…dwi di cal llond bol.”

“Ma pobl yn meddwl bod gwneud label yn rywbeth eitha cŵl i wneud ond jyst gweinyddiaeth…a jyst rhoi gymaint o amser ac egni, dwi di cal llond bol.”

Wel yn sicr rydan ni yn Nhyrrau’r Selar, a llawer iawn o bobl eraill yn gwerthfawrogi’r amser a’r egni mae Rhys a Garmon wedi’i roi i’r label ac eu hymroddiad i ryddhau cerddoriaeth o’r safon uchaf – diolch Peski.

Un arall sy’n gwerthfawrogi gwaith Peski ydy’r DJ a blogiwr Carl Morris ac mae wedi ysgrifennu blog teyrnged bach neis i’r label.

Fe wnawn ni eich gadael chi efo un o’n hoff ganeuon ni i’w rhyddhau ar Peski: