Gyda llai na mis i fynd nes bydd noson Wobrau’r Selar yn digwydd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi enwau rhai o’r artistiaid fydd yn perfformio yno.
Felly, dyma 5 o’r artistiaid fydd yn perfformio yn y Gwobrau ar 20 Chwefror:
– Sŵnami
– Band Pres Llareggub
– HMS Morris
– Terfysg
– Aled Rheon
Bydd rhagor o enwau’n cael eu cyhoeddi erbyn wythnos nesaf, a phob un yn haeddu eu lle ar sail eu bywiogrwydd a llwyddiant yn 2015.
Mae tocynnau Gwobrau’r Selar yn gwerthu’n dda, ac mae manylion ynglŷn â ble gallwch brynu tocyn fan hyn. Mae’r tocynnau dal ar gael am y pris cynnar arbennig o £12 OND dim ond nes nos Sul 31 Ionawr. Bydd y pris yn codi i’r pris llawn o £15 wedi hynny – felly brysiwch os am fachu bargen!