Un o’r bandiau ifanc mae gan Y Selar ddisgwyliadau mawr ohonyn nhw ydy Alffa.
Nhw ydy testun eitem ‘Ti di clywed…’ rhifyn diweddaraf Y Selar, ac mi wnaethon ni fwynhau y set y gwnaethon nhw i ni ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd yn Y Fflint yn gynharach eleni.
Newyddion cyffrous felly bod EP cyntaf y band yn cael ei ryddhau ar iTunes erbyn 1 Hydref, ac fel tamaid bach blasus i aros pryd bydd trac o’r EP yn cael ei ryddhau ar Soundcloud Alffa ddydd Sadwrn yma (16 Medi).
Bu’r grŵp dau aelod, sef Sion a Dion, yn recordio’r EP yn Stiwdio Ty’n Rhos gyda Rhys Jones, sy’n gyfarwydd i ni fel gitarydd y grŵp Cordia a hanner y ddeuawd Fi a Fo.
Mae’r grŵp wedi penderfynu rhyddhau’r EP yn annibynnol, ac yn ôl yr hogia mae’r sŵn ar yr EP yn “bob dim ‘da ni wedi bodi isho fel band”.
Teimlo’r blŵs…
“Mae ganddo chi y traciau blŵs trwm fel arfer, ond un trac sy’n ysgafnach, fel blŵs araf” meddai’r gitarydd a’r canwr, Dion, wrth Y Selar.
“Hefyd mae ‘na intro trac o’r enw ‘Alffa’. Y bedair cân trwm ydy ‘Tomos Rhys’, ‘Dal Dig’, ‘Crafangau’ a ’13.11.15’, ac y gân arafach ydy ‘Cofia’.”
“Da’ ni fel band yn teimlo fel bod gwelliant yn ein sŵn, ac ein bod ni wedi manteisio o wneud yr EP.”
Ar hyn o bryd does dim cynlluniau ar gyfer gig lansio, ond os oes ‘na rywun am gynnig slot bach i’r ddeuawd o Lanrug yna cysylltwch â’r Selar ac fe wnawn ni rhoi chi mewn cysylltiad ag Alffa. Gallwn gadarnhau eu bod nhw’n swnio’n dda ar lwyfan!
Mae Alffa wedi cael haf digon prysur o gigio, a’r bwriad ydy cynnal momentwm hynny gyda’r EP.
Cadwch olwg am y trac yn ymddangos ar Soundclud Alffa felly, a bachwch yr EP pan fydd ar iTunes ym mis Hydref.