EP cyntaf Cpt Smith yn y siopau

Mae EP cyntaf y grŵp ifanc gwych o Gaerfyrddin, Cpt Smith, bellach ar gael i’w brynu yn y siopau ac yn ddigidol ar-lein.

Y pedwarawd addawol sydd ar glawr rhifyn newydd Y Selar, ac mae cyfweliad gyda’r canwr, Ioan Hazell, rhwng y cloriau.

Rhyddhawyd yr EP newydd, Propeller, ddydd Gwener, gyda’r band yn perfformio dau gig yng Nghaerdydd i lansio’r casgliad – un ddiwedd y prynhawn yn siop recordiau Spillers, a’r ail yng Nghlwb Ifor Bach gyda’r hwyr.

Mae Cpt Smith yn gyfarwydd iawn i’r Selar ers peth amser ac fe wnaethon nhw ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Resbiradaeth’, ym mis Mai 2015 fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar.

Ers hynny, maen nhw wedi arwyddo gyda label Ikaching, gan ryddhau ail sengl ‘Llenyddiaeth’ yn gynharach eleni.

Yn ei gyfweliad gyda Lois Gwenllian yn rhifyn diweddaraf Y Selar, mae Ioan Hazell yn datgelu bod y grŵp wedi aros nes bod ganddyn nhw gasgliad o ganeuon roedden nhw’n gwbl hapus â hwy cyn rhyddhau record hirach.

Dywed Ioan hefyd bod y grŵp wedi datblygu llawer ers rhyddhau ‘Resbiradaeth’ bron flwyddyn a hanner yn ôl.

“Dw i’n sicr wedi gweld newid ers ein recordiau cynnar ni, yn enwedig o ran sut mae’r caneuon yn gweithio” meddai Ioan.

“Mae loads llai o weiddi a mwy o bwyslais ar alawon nawr.”

Gallwch ddarllen y cyfweliad llawn â Ioan Hazell o Cpt Smith yn rhifyn newydd Y Selar, ac mae modd prynu’r EP newydd mewn siopau recordiau da, ac ar y llwyfannau digidol arferol, nawr.

Dyma Cpt Smith yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni: