Gyda chalon drom, gall Y Selar gyhoeddi’n ecsgliwsif y bydd Y Bandana yn chwarae eu gigs olaf ym mis Hydref eleni.
Mae’r grŵp o ardal Caernarfon a Bethel wedi bod yn perfformio gyda’i gilydd ers 2007, gyda’u gig cyntaf yn Neuadd Hendre ger Bangor ym mis Medi’r flwyddyn honno. Dros y bum mlynedd ddiwethaf maen nhw wedi bod yn un o fandiau mwyaf poblogaidd y sin Gymraeg, ac wedi cipio llond trol o wobrau’r Selar am eu hymdrechion.
Rhyddhaodd y band eu trydydd albwm, ac eu holaf, Fel Tôn Gron, ym mis Mawrth eleni.
Mae’r stori lawn am ddiwedd oes y band i’w weld yn rhifyn diweddaraf Y Selar sydd allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw a gallwch godi copi ar faes yr Eisteddfod yn Y Fenni , yn ogystal ag o’r mannau arferol.
Allan gyda bang
Cysylltodd Y Bandana gyda’r Selar rai wythnosau nôl i roi gwybod eu bod am chwalu, ac yn cynllunio eu gigs olaf yn yr hydref. Mae manylion eu dau gig ffarwelio yn rhifyn newydd Y Selar – un yn y de ar 1 Hydref, a’r llall yng Nghaernarfon ar 15 Hydref.
“Rydym wedi gweithio’n galed ond wedi cael llawer o hwyl, gweld pob cornel o Gymru, cyfarfod a llwyth o bobl a gwneud ffrindiau oes” meddai Tomos Owens o’r grŵp.
“Da ni di sylwi fod hi di mynd yn anoddach dros y blynyddoedd dwetha ma i ddod at ein gilydd mor aml oherwydd fod pawb mor brysur efo’i gwaith a phrosiectau cerddorol eraill.”
“Doedda ni’m isho i betha fizzlo allan felly ddaru ni benderfynu sa’n well ‘go out with a bang‘ a dyna pam fod ni di trefnu dwy gig mis hydref fel ein gigs ola.”
Darllenwch y stori lawn, manylion y gigs olaf, ynghyd â theyrnged i’r Bandana yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan nawr.
Llun: Y Bandana yn un o’u gigs cynnar ar uned Cymdeithas yr Iaith yn Steddfod 2008