Gig lansio Fforesteering

Mae gig lansio albwm newydd CaStLeS yn cael ei gynnal yn The Moon Club yng Nghaerdydd heno.

Bydd Fforesteering allan yn swyddogol ddydd Gwener, ond bydd modd prynu copïau cynnar yn y lansiad yn ôl y band.

Mae’r grŵp hefyd wedi datgelu i’r Selar bod 100 o bobl sy’n dod i’r gig yn cael cod lawr lwytho am ddim ar gyfer EP cyntaf CaStLeS, sef PartDepart – bargen!

Bydd y gantores gyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Selar, Ani Glass, yn cefnogi CaStLeS, ynghyd â Winter Coat a Conformist.

Gallwch ddarllen cyfweliad gyda’r grŵp o Lanrug yn rhifyn diweddaraf Y Selar, ac mae ffans y triawd sydd ar gynllun Gorwelion eleni wedi bod yn disgwyl yn eiddgar ar record hir gan y grŵp sy’n bodoli ers 2008.

Ac mae’r albwm wedi creu cryn argraff ar adolygwr Y Selar, Gethin Griffiths…

“Ar brydiau’n ddiffaith ac agored, ar brydiau’n dynn a ffynci, mae CaStLeS yn creu sain electronig gyfoes sy’n eich gwahodd ar lwybr cerddorol byddwch chi eisiau ei droedio fwy nac unwaith” meddai Gethin yn rhifyn newydd Y Selar.

Recordiwyd yr albwm yng ngharafán statig y grŵp ar lethrau Eryri, a gwnaed y gwaith mastro gan Hafod Mastering.

Un o draciau’r albwm ydy’r anhygoel Amcanu – gwrandewch a mwynhewch…