Mae cynllun Gorwelion wrthi’n chwilio am artistiaid newydd i fod yn rhan o’r cynllun yn 2016-17.
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r cynllun, sy’n bartneriaeth rhwng y BBC a Chyngor Celfyddydau Cymru, fod yn rhedeg ac mae’n cynnig cyfleoedd datblygu ardderchog i 12 o artistiaid Cymreig.
Ymysg yr artistiaid Cymraeg i fod yn rhan o’r cynllun dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Sŵnami, Candelas, Kizzy Crawford, Yr Eira, Casi ac Y Reu.
Mae’r cynllun yn cynnig cyfleoedd i artistiaid berfformio mewn digwyddiadau amywiol ledled Cymru a thu hwnt, yn ogystal â chael sylw arbennig gan Radio Cymru a Radio Wales.
I gael eu hystyried i fod yn rhan o’r cynllun mae angen i artistiaid yrru recordiad o’u gwaith i Gorwelion, yn ogystal â llenwi ffurflen arlein. Mae angen gwneud hynny erbyn y dyddiad cau o 1 Chwefror, a bydd y 12 artist newydd yn cael eu cyhoeddi ar 22 Chwefror.
Cliciwch ar y ddolen yma am y manylion llawn.