Mae cyfle i unrhyw ddarllenwyr Y Selar sy’n byw yn Efrog Newydd weld ychydig o gerddoriaeth fyw prin yn iaith y nefoedd ar eu stepen drws nos Sadwrn (3 Rhagfyr).
Y rheswm am hynny ydy bod Griff Lynch yn perfformio set arbennig yn y Sunken Hundred yn Brooklyn gyda set am 19:30 a 22:00.
Bar a bwyty sy’n dwyn dylanwadau o Gymru ydy’r Sunken Hundred, ac mae’r enw wedi’i seilio ar chwedl Cantre’r Gwaelod … gweld be maen nhw ‘di gwneud fana?
Prosiect dau frawd o Sir Benfro’n wreiddiol, Illtyd a Dominic Barrett, ydy’r bwyty ac maen nhw’n gweini bwyd sydd â dylanwad Cymreig, gan gynnwys bara lawr a bara brith wrth gwrs.
Yn ôl Griff, mae o’n gwneud y gig acwstig ar gais ffrind iddo sy’n rhedeg y Gymdeithas Gymraeg yn y ddinas.
Fe ryddhaodd Griff, sy’n adnabyddus fel aelod o’r Ods, ei sengl unigol cyntaf, ‘Hiroes dy Wen’ ar 28 Hydref, a bydd y gig nos Sadwrn yn gyfle i weld be mae pobl dros fôr yr Iwerydd yn ei feddwl o’i ddeunydd unigol.
Wedi dweud hynny, gan bod y poster ar gyfer y gig yn awgrymu’n gryf bod Yr Ods yn chwarae, mae’n debyg bydd rhaid i Griff ganu ambell gân gan ei fand!
I’r rhai ohonoch chi sy’n digwydd bod yn Efrog Newydd am fentro draw, dyma gyfeiriad y bwyty – Cobble Hill, at 276 Smith Street, Brooklyn, New York…ond cofiwch gau y drws ar ôl cyrraedd!