Bydd dwy o artistiaid amlycaf Cymru’n teithio yn Awstralia fis Hydref eleni.
Cyhoeddwyr yr wythnos hon bod Gwenno i berfformio ar dri dyddiad yn Sydney, Perth a Melbourne.
Bydd Cate le Bon hefyd yn perfformio ei gigs cyntaf yn Awstralia yn yr un cyfnod, gyda sioe yn Sydney ar nos Fercher 5 Hydref, yn Perth ar 9 Hydref ac un gig arall yng Ngŵyl Camp Doogs ger Perth (…wel, awr a hanner o Perth, sy’n reit agos yn Awstralia) gyda’r manylion i’w cadarnhau.
Bydd y gig cyntaf Gwenno yn Mojo’s Bar yn Perth ar ddydd Sadwrn 8 Hydref, a bydd y dyddiad arall sydd wedi’i gadarnhau yn y Newtown Social Club yn Sydney ar 13 Hydref.
Bydd Gwenno hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Camp Doogs yng Ngorllewin Awstralia, gyda’r manylion i’w cadarnhau.
Mae Gwenno ar fin gwneud cyfres o gigs mewn gwyliau amrywiol yn nes at adref yng Nghymru a Lloegr, gan ddechrau gyda Larmer Tree Festival yn Salisbury nos fory (16 Gorffennaf).
Gigs Gorffennaf 2016 Gwenno:
16 Gorffennaf – Larmer Tree Festival, Salisbury
20 Gorffennaf – Gŵyl Ffrinj Llangollen
22 Gorffennaf – Deer Shed Festival, Swydd Efrog
23 Gorffennaf – Tramlines Festival, Sheffield
24 Gorffennaf – Blue Dot Festival, Jodrell Bank
30 Gorffennaf – Port Elliot Festival, Saltash