Gwobrau Newydd

Os oeddech chi’n tybio eich bod chi wedi bwrw eich pleidlais Gwobrau’r Selar am y flwyddyn, wel meddyliwch eto!

Rydan ni wedi penderfynu cyflwyno dwy wobr fach ychwanegol i’r Gwobrau eleni.

Y gyntaf ydy’r wobr i’r Sengl Selar Orau, a noddir gan Sain – mae modd i chi fwrw pleidlais nawr dros un o’r naw cân sydd wedi’u rhyddhau fel rhan o gynllun Senglaur Selar hyd yma. Mae’r bleidlais ar agor nes nos Sul 7 Chwefror yn unig, felly peidiwch oedi.

Yr ail wobr newydd eleni ydy’r wobr am Gyfraniad Arbennig, sy’n cael ei noddi gan Cwmni Da a chyfres ‘Pwy geith y gig‘. Tîm golygyddol Y Selar fydd yn dewis enillydd y wobr yma, yn rywun rydan ni’n teimlo sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i’r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg cyfoes.

Bydd enillwyr y ddwy wobr yma’n cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth ar 20 Chwefror 2015.