Mae ‘na ŵyl gerddorol newydd go unigryw ac arbennig yn cael ei chynnal yn Abertawe ar ddydd Sul Tachwedd 20.
Mae lein-yp Gŵyl NAWR yn cynnwys nifer o enwau fydd yn gyfarwydd, a nifer o enwau anghyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar, ond pob un yn cynhyrchu cerddoriaeth arbrofol a diddorol.
Bu’r Selar yn sgwrsio gyda’r trefnydd, y telynor amgen dawnus, Rhodri Davies, ynglŷn â’r ŵyl gan holi pam yr aeth ati i’w threfnu.
“Symudes i Abertawe ym mis Ionawr a chael fy nghyffroi gyda y nifer o gerddorion lleol a ledled Cymru sydd yn ymwneud a cherddoriaeth arbrofol, amgen a byrfyfyr heddiw” meddai Rhodri.
“Mae’r rhain yn cynnwys gwaith byrfyfyr Gorwel a Fiona Owen ,rhaglen radio Gwenno Saunders o’r enw ‘Cam o’r Tywyllwch’ ar Resonance FM, a phrosiect ffilm ddogfen Dan a Rose Linn-Pearl o’r enw ‘Sain: Sound’ sydd yn archwilio’r sin Celf Sain sy’n ffynnu yng Nghymru heddiw.”
“Ac mae llawer o enghreifftiau eraill, rhai ohonynt a welwyd ar focs CD o’r enw ‘Pedair Awr yng Nghymru Fydd’ sy’n ddathliad o’r sin cerdd arbrofol ar y label Fourier Transform. Mae ‘na hefyd nifer o feysydd eraill sydd â chysylltiadau amlwg gyda cherddoriaeth amgen, fel gwaith arbrofol Eddie Ladd a Mike Pearson, gwaith celf dinistr Ifor Davies, ymchwil arbennig Heike Roms ‘Beth yw ‘performance’ yn Gymraeg?’ a gwaith ehangfryd Y Chapter yng Nghaerdydd, ac yn enwedig eu Gŵyl Experimentica.”
Dyna’r prif ddylanwadau felly, ac yn ôl Rhodri mae llawer o alw am ddigwyddiadau a gweithgareddau amgen o’r fath.
“Erbyn hyn rwy wedi cynnal tair noson yn Abertawe gyda thîm NAWR (Jenn Kirby, Dan Linn-Pearl a Rose Linn-Pearl) ac wedi cael ymateb gwych gan y gynulleidfa sydd wedi bod yn teithio o lefydd fel Caerfyrddin, Caerdydd a Chasnewydd i ddod i’r nosweithiau. Mae’n sicr bod yna alw am weithgaredd fel hyn yng Nghymru.”
Arlwy arbennig
Ymysg yr artistiaid Cymreig cyfarwydd sy’n perfformio mae enwau Euros Childs, Gwenno, Pat Morgan (Datblygu) ac Ani Glass yn dal y llygad. Ond mae’r rhestr hirfaith o artistiaid sydd yn llai cyfarwydd i ni hefyd yn drawiadol, felly sut oedd mynd ati i lunio lein-yp ar gyfer gŵyl o’r fath.
“Rwy wedi canolbwyntio ar wahodd cerddorion lleol Abertawe, Caerdydd, y cymoedd, Bryste a Llundain mewn ymgais i wneud cysylltiadau newydd rhwng artistiaid” eglura Rhodri.
“Yn bersonol, roedd Pat Morgan o Datblygu ar dop fy rhestr o bobl i wahodd. Tyfais fyny yn mynd i gigs Datblygu a mae ei gwaith gyda Datblygu a’r grŵp ‘Canolfan Hamdden’ gyda Gwenno ac eraill yn wych.”
“Rwy hefyd yn hapus bod artistiaid fel Euros Childs, Ani Glass, Ginko, Mike Pearson a Gwenno yn gallu cyfrannu ar y dydd. Ar yr ochr ffilm rwy’n edrych mlaen i weld tair ffilm arbennig gan yr artist Aura Satz sy’n edrych ar waith tair arloeswraig cerddoriaeth electroneg: Daphne Oram, Lydia Kavina a Laurie Spiegel.”
Does dim amheuaeth fod yr arlwy’n amrywiol ac amgen, ac mae hynny’n ganolog i syniadaeth yr ŵyl yn ôl Rhodri Davies sy’n gobeithio y bydd yn datblygu i fod yn ddigwyddiad rheolaidd.
“Mae cerddoriaeth byrfyfyr ac arbrofol yn hanfodol i unrhyw ddyhead i chwilio ffyrdd newydd radical a phositif o neud pethe, ac o fod gyda’n gilydd yn greadigol ac yn wleidyddol.”
“Y gobaith yw cynnal nosweithiau clwb yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn ac yna gŵyl flynyddol os yn bosib.”
Cynhelir Gŵyl NAWR yn Theatr Volcano yn Abertawe ar 20 Tachwedd, ac mae mwy o fanylion ar y digwyddiad Facebook.
Mae Rhodri Davies yn delynor amgen cydnabyddedig dros ben, ac yn perfformio yn yr ŵyl ei hun. Dyma fideo ohono’n perfformio yn yr Hundred Year Gallery yn Llundain yn Nhachwedd 2014: