Helpwch lenwi rhestr gynnyrch 2016

Rydan ni unwaith eto’n paratoi ar gyfer Gwobrau’r Selar, sydd bellach wedi hen sefydlu ei le fel un o uchafbwyntiau calendr cerddorol Cymru.

Mae’r trefniadau ar gyfer y penwythnos ei hun ar y gweill, a bydd peth newyddion am hynny’n fuan – gwyliwch y gofod!

Cyn y digwyddiad ei hun, mae’n rhaid dewis yr enillwyr wrth gwrs. Cyn dewis yr enillwyr, mae’n rhaid i ni gynnal ein pleidlais gyhoeddus…a cyn agor y bleidlais mae angen i ni lunio rhestrau hir i chi bleidleisio drostyn nhw.

Mae’r holl gynnyrch Cymraeg cyfoes sydd wedi’i ryddhau’n wreiddiol yn 2016 yn gymwys ar gyfer categoriau Gwobrau’r Selar. Gyda ‘cynnyrch Cymraeg’ rydan ni’n golygu unrhyw recordiau cyfoes sy’n cynnwys 50% neu fwy o ganeuon yn yr iaith Gymraeg. Mae’r holl albyms / cryno albyms sydd wedi’u rhyddhau yn 2016 yn gymwys ar gyfer categori ‘Record Hir Orau’, ac mae’r holl EPs a Senglau a ryddhawyd yn 2016 yn gymwys ar gyfer categori ‘Record Fer Orau’.

Rydan ni eisoes wedi dechrau llunio rhestr cynhwysfawr o’r recordiau sydd wedi’u rhyddhau yn 2016, ond rydan ni angen eich helpu chi – yn ddarllenwyr, artistiaid a labeli i wneud yn siŵr bod popeth cymwys ar y rhestr, ac i wneud yn siŵr bod pawb yn cael chwarae teg.

Os ydach chi’n credu bod rhywbeth cymwys ar goll, yna plîs cysylltwch â neu dros e-bost (yselar@live.co.uk), trwy Twitter (@Y_Selar) neu trwy Facebook.