Roedd hi’n dipyn o syndod i’r Selar, wrth daro mewn i Henebion ger Caffi Maes Bar fore Mercher y Steddfod Genedlaethol yn Y Fenni, i glywed bod y triawd bellach yn ddeuawd.
Fyth ers i’r grŵp roc o Fachynlleth chwarae yn un o gigs ‘O’r Selar’ yn Aberystwyth yn Nhachwedd 2014, rydan ni wedi cadw golwg ar eu datblygiad ac fe gawson nhw gyfle i ryddhau eu sengl gyntaf ‘Mŵg bore Drwg’ fel rhan o gynllun Senglau’r Selar.
Roedd yn dipyn o syndod a siom felly i glywed bod y gitarydd a phrif leisydd, Kristian, wedi penderfynu gadael y grŵp.
“Mae Kris yn symud i Fanceinion” meddai Dio Davies, drymiwr Henebion wrth Y Selar.
Roedd Henebion yn y Steddfod i gystadlu yn ffeinal Brwydr y Bandiau eleni ar y prynhawn Mercher, ac yn anffodus iddyn nhw roedd Kris wedi gwneud y penderfyniad ddim ond dyddiau cyn y ffeinal.
Roedd bois yn ddiolchgar iawn felly wrth i Jac o’r grŵp Hyll gynnig help llaw iddyn nhw trwy chwarae gitâr fas iddyn nhw yn y gystadleuaeth, gyda Jake yn troi at y gitâr a chanu.
Dal ati fel dau
Trefniant tymor byr oedd hyn, ac fe ddatgelodd Dio a Jake i’r Selar eu bod yn bwriadu parhau i berfformio fel deuawd yn y dyfodol.
“Rydym yn mynd i gario mlaen fel two piece, tebyg i arddull Royal Blood” meddai Dio wrth Y Selar.
“Mae nawr yn sialens i ni greu set newydd oherwydd bod yr hen ganeuon ddim yn addas i’r arddull hyn yn anffodus.”
Sialens neu beidio, mae ganddo ni bod ffydd yn Henebion, ac rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr i glywed eu set newydd – mae’r byd angen band da o Fach!
Mae ‘Mŵg bore Drwg’ gan Henebion bellach ar gael ar CD fel rhan o gasgliad Senglau’r Selar a ryddhawyd gan Rasal ddechrau mis Awst.
Henebion fel triawd