Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a BBC Cymru wedi… wel, lansio eu Cronfa Lansio blynyddol sy’n rhan o gynllun Gorwelion.
Maent yn galw ar i artistiaid ymgeisio am un o’r 25 o grantiau hyd at £2,000 sydd ar gael i’w hennill, gyda’r bwriad o ‘gefnogi gweithgareddau fydd yn helpu artistiaid neu fandiau i gyflawni eu potensial a chyrraedd y lefel nesaf.
Bydd modd i unrhyw fandiau neu artistiaid sy’n byw yng Nghymru ac sy’n ysgrifennu, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth gyfoes boblogaidd a gwreiddiol wneud cais i’r gronfa rhwng 5 Medi a 5 Hydref.
Un o’r bandiau sydd wedi elwa o’r gronfa yn y gorffennol ydy triawd arbrofol gwych Cestyll/Castles.
“Yn ogystal â helpu i ariannu creu a rhyddhau ein halbwm gyntaf,” meddai Dion Hamer o’r band “mae’r arian a rhoddwyd at wneuthuriad y copïau yn ffordd i ni ail-fuddsoddi yn y band o’r incwm gawn ni yn eu gwerthu nhw, sy’n golygu y gallwn ni ariannu prosiectau eraill yn y dyfodol”.
“Rydyn ni wedi cyflawni cymaint dros y flwyddyn ddiwethaf, a rheiny’n bethau fyddai wedi cymryd blynyddoedd i ni gyflawni heb help y Gronfa Lansio.”
Os ydach chi’n fand neu artist sydd â diddordeb mewn gwneud cais i’r gronfa, yna ewch i wefan Gorwelion am fwy o wybodaeth.