Mae un o artistiaid Clwb Senglau’r Selar, Magi Tudur, wedi rhyddhau ei EP cyntaf, Gan Bwyll ar label JigCal.
Rydan ni’n gyfarwydd â Magi ers peth amser fel cerddor ifanc addawol iawn, ac mae hi hefyd yn aelod o un o’r bandiau eraill sydd wedi rhyddhau trac ar gynllun Clwb Senglau’r Selar, Y Galw.
Yn ddim ond un ar bymtheg oed mae Magi yn byw bywyd prysur rhwng astudio ar gyfer ei TGAU, paratoi ar wneud Gradd 8 canu a phiano, a gweithio mewn B&B, felly maen wyrth ei bod wedi llwyddo i recordio a rhyddhau ei record gyntaf.
Er ei phrysurdeb, neges yr EP ydy bobl ifanc gymryd pwyll a pheidio rhoi gormod o bwysau ar ei hunain.
“Mae Gan Bwyll hefyd yn neges i eraill fy oed i jest i arafu ‘chydig, os yn bosib,“ meddai Magi, sydd ar fin cychwyn yn y chweched dosbarth yn Ysgol Brynrefail, Llanrug.
“Da’ ni dan lot o bwysa i wneud yn dda yn yr ysgol, ac i wneud iddi ymddangos fel ein bod â bywyd cymdeithasol ffantastig yn mynd o un lle i’r llall, ac edrych yn berffaith wrth wneud hynny. Weithia mae’n mynd yn ormod ac mae angen cymryd cam yn ôl a gwneud dim.”
Datblygu’n ifanc
Dysgodd y gantores o Benisarwaun i chwarae’r gitâr o lyfrau ei thad, y cerddor amlwg Tudur Huws Jones, gan ddechrau perfformio’n fyw rhyw bedair blynedd yn ôl.
“O ni’n sbredio’r llyfra allan ar y llawr a trio gwneud sens ohonyn nhw. Mae’n rhaid ymarfer lot, a gwneud smonach ohoni cyn cael sŵn da” meddai Magi.
Mae’r traciau ar ‘Gan Bwyll’ yn adlewyrchu bywyd rhywun o’i hoed gyda ‘Rhywbryd’ yn disgrifio person sydd a lot o feddwl o’i hun. Mae ‘Lôn Bost’, ar y llaw arall, yn edrych ar y dylanwadau a penderfyniadau sy’n rhaid eu gwneud wrth wynebu’r byd.
Mae Magi wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn un o’r artistiaid sydd wedi derbyn un o offerynnau’r cerddor amryddawn Alun ‘Sbardun’ Huws ar ôl iddo adael cyfarwyddyd yn ei ewyllys y dylai ei offerynnau gael eu rhannu ymysg cerddorion sy’n perfformio. Derbyniodd Magi ei gitâr Gibson J45.
“Nes i gyffroi’n lân pan ges i wybod, achos dwi’n gwybod fod y gitâr ’ma wedi golygu lot i Sbardun” meddai Magi.
“Dwi wedi bod yn brysur yn gigio yn ddiweddar, ac wedi ei chanu hi mewn dipyn o gigs yn barod.”
Mae’r EP, Gan Bwyll, allan nawr. Gwrandewch ar un o’r traciau, ‘Lôn Bost’ isod.