Meilyr yn cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Y cerddor amryddawn o Bow Street ger Aberystwyth, a chyn aelod Radio Luxembourg, Meilyr Jones ydy enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni arbennig yn The Depot yng Nghaerdydd neithiwr gyda phrif drefnydd y wobr, Huw Stephens, yn cyflwyno’r wobr Meilyr.

Record hir gyntaf Meilyr, 2013, ddaeth i’r brig o’r rhestr fer o ddeuddeg o albyms.

“Roedd ennill yn syndod mawr, doedd gen i ddim syniad” meddai Meilyr ar ôl derbyn ei wobr.

“Dwi’n nerfus, ond ar y cyfan mae’n grêt i ennill”

“Fe wnes i’r record ar ben fy hun, i ffwrdd o’r diwydiant gyda chymorth fy nheulu a fy ffrindiau da. Roedd yn golygu bod modd i mi archwilio ac arbrofi go iawn.”

Cynhaliwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig am y chweched flwyddyn eleni wedi i Huw Stephens a’r hyrwyddwr John Roston lansio’r wobr yn 2011. Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Gruff Rhys, Georgia Ruth Williams a Gwenno llynedd.

Roedd mwy nag erioed o albyms Cymraeg wedi cyrraedd y rhestr hir eleni gan gynnwys casgliadau 9Bach, Alun Gaffey, Datblygu, Plu a Sŵnami.

Canlyniad agos

Bu’r Selar yn sgwrsio gyda rhai o’r beirniaid yn ystod y seremoni neithiwr, a darganfod bod y canlyniad yn agos iawn eleni gyda rhai o’r albyms Cymraeg wedi creu argraff arbennig ar nifer o’r beirniaid oedd wedi cyfarfod ddydd Mawrth i drafod y rhestr cyn bwrw eu pleidlais yn gyfrinachol.

Ond, mae wedi bod yn flwyddyn ardderchog i Meilyr ac roedd nifer oedd yn yr ystafell neithiwr yn credu mai 2013 oedd y ffefryn i gipio’r wobr cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud.

Fel aelod o Radio Luxembourg / Race Horses, a cyn hynny Mozz yn Ysgol Penweddig, mae Meilyr wedi bod ar radar Y Selar er nifer o flynyddoedd a hoffai’r cylchgrawn ei longyfarch yn fawr ar ei lwyddiant.

Os ydach chi awydd ychydig o nostalgia, gallwch ddarllen cyfweliad arbennig Y Selar gyda’r Race Horses yn rhifyn Mawrth 2009.

Rhestr fer lawr Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2016:

9Bach – Anian (Real World)

Alun Gaffey – Alun Gaffey (Sbrigyn Ymborth)

Cate Le Bon – Crab Day (Turnstile/Drag City)

Climbing Trees – Borders (Staylittle Music)

Datbylgu – Porwr Trallod (Ankstmusic)

Meilyr Jones – 2013 (Moshi Moshi)

Plu – Tir A Golau (Sbrigyn Ymborth)

Right Hand Left Hand – Right Hand Left Hand (Jealous Lovers Club)

Simon Love – It Seemed Like a Good Idea at the Time (Fortuna Pop!)

Skindred – Volume (Napalm Records)

Swnami – Swnami (Ika Ching)

The Anchoress – Confessions of a Romance Novelist (Kscope)