Daeth Huw Owen i’r amlwg fel basydd un o grwpiau mwyaf Cymru ar ddechrau’r mileniwm, sef Kentucky AFC, ond bellach mae’n saff dweud ei fod wedi hen ennill ei blwyf gyda’i brosiect unigol Mr Huw.
Bellach yn cyfansoddi dan yr enw hwnnw ers degawd, mae Huw ar fin rhyddhau ei bumed albwm gyda lansiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos Wener yma, 25 Tachwedd.
Mae pedair o’r recordiau hyn wedi eu rhyddhau’n fasnachol, tra bod Huw wedi penderfynu rhyddhau ‘Gogleddwyr Budur’ (2010) i’w lawr lwytho am ddim.
“Nes i ddychryn diwrnod o’r blaen pan nes i sylweddoli fy mod wedi rhyddhau pump albwm mewn llai na deng mlynedd” meddai Huw wrth Y Selar.
“Yn amlwg bo gen i lot gormod o amser ar fy nwylo.”
Go brin am hynny, ag yntau ar gyfnod tadolaeth ar hyn o bryd mae ganddo ddigon ar ei blât! Yn hytrach, gall hawlio ei fod wedi bod yn o’r artistiaid cyfoes Cymraeg mwyaf cynhyrchiol dros y ddegawd diwethaf a does dim arwydd ei fod yn arafu wrth ryddhau Gwna Dy Feddwl i Lawr yr wythnos hon.
Gogleddwr glanach
Yn ogystal â geiriau crafog a thywyll ei ganeuon, mae sŵn low-fi eithaf amrwd Mr Huw wedi dod yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Cymru erbyn hyn, ond mae’n awgrymu’n gryf bod yr albwm diweddaraf yn dynodi newid cyfeiriad rhyw ychydig.
“Dwi wedi mynd am gynhyrchiad ychydig glanach y tro hwn. Defnyddio lot llai o offerynnau byw. Dwi wedi defnyddio lot mwy o beiriannau drymio a samples ar yr albwm yma – maen nhw’n tueddu i fod fwy mewn amser na be ydw i wrth chwarae’r drymiau.”
“Ond wrth sbio’n ôl mae pob albwm dw i wedi’i wneud yn eitha’ gwahanol o ran eu sŵn. Ond o’i chymharu efo’r albwm ac EP diweddaraf, ‘Cariad Afiach’ a ‘Du Llun’ mae hi’n wrthwyneb llwyr o ran sain a chynhyrchiad.”
Creu celf
Er bod rhywfaint o newid yn sŵn y record, mae un peth yn parhau’n gyson yng ngwaith Mr Huw, sef y pwyslais ar yr elfen weledol sy’n cyd-fynd â’r gerddoriaeth.
I gyd-fynd a Gogleddwyr Budur, fe wnaeth Huw gyhoeddi cyfres o fideos annibynnol i’w ganeuon, wedi eu cynhyrchu gan gyfeillion amrywiol.
Mae hefyd wedi rhoi pwyslais ar greu gwaith celf unigryw ar gyfer ei recordiau yn y gorffennol – fe greodd gwaith celf Cariad Afiach gyda’r llun cofiadwy o saeth trwy galon, tra bod nifer cyfyngedig o gopïau CD o’r EP Du Llun gyda llun unigryw o’i hun ym mhob un.
Mae Huw wedi penderfynu ar bolisi gweledol tebyg ar gyfer yr albwm newydd, sef nifer cyfyngedig o gopïau CD gyda chlawr gwahanol i bob un….
“Dwi wedi bod yn brysur yn peintio a stampio’n ffordd trwy 200 o gloriau ers sawl wythnos” meddai’r cerddor cwyrci.
“O’r cychwyn mi oeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol ac arbennig wrth ryddhau’r albwm yma. Mae’r broses gyfansoddi yn un bersonol ofnadwy, felly mi o’n i eisiau cario hynny ymlaen mor bell ag o’n i’n gallu cyn gallu rhoi’r albwm yn nwylo eraill.”
“Dwi’n hoffi’r syniad o roi rhywbeth arbennig i bwy bynnag neith brynu’r CD…rhywbeth hollol unigryw. Mewn amser lle mae pobl yn ei gweld hi’n haws, ella, i lawr lwytho cerddoriaeth, a ddim pob tro yn lawr lwytho albyms llawn, o’n i’n meddwl byswn i’n rhoi rhywbeth arbennig, creadigol i’r prynwyr.”
Gosod ei stamp
Yn yr oes ddigidol o lawr lwytho cerddoriaeth, mae’n bwysig i gerddorion sy’n rhyddhau record ar ffurf caled roi mwy o bwyslais ar y gwaith celf ehangach. Rydan ni’n gweld mwy yn penderfynu rhyddhau ar feinyl yn ddiweddar wrth gwrs, neu gomisiynu darn o gelf unigryw gan artist. Ond mae Huw wedi penderfynu rhoi ei stamp personol ar eu cloriau…a hynny’n llythrennol hefyd gan fod stamp o’i ôl bys ar y 200 o gopïau mae wedi eu creu â llaw.
“Dw i’n ffan mawr o’r ethic DIY. Pam ddylia’r sawl sy’n prynu orfod gwario a derbyn union yr un peth a phawb arall? Fy ffordd fach i o ddeud diolch ydi o yn y bôn.”
“Ac i gyd-fynd efo’r gwaith celf, bydd pob CD yn dod gyda dwy gân ychwanegol bydd ddim ar gael i’r sawl sy’n lawr lwytho’r albwm.”
Gwaith celf unigryw, a dwy gân ychwanegol yn y fargen…pam fyddai unrhyw un yn dewis lawr lwytho hon yn hytrach na phrynu copi caled?
Bydd cyfle cyntaf i brynu’r CDs yn y gig lansio yn Neuadd Ogwen nos Wener, pan fydd yr anhygoel Dau Cefn yn cefnogi. A fel petai Huw ddim yn cynnig digon am eich arian yn barod, mae’n addo “anrheg arbennig i nifer cyfyngedig o bobl sy’n prynu’r albwm ar y noson”.
A beth am gigs i ddilyn y noson lansio?
“Mi fydd yna noson lansio, ac wedyn cwpl o gigs eraill cyn diwedd Rhagfyr. Ond y bwriad yw gigio’r albwm tan Chwefror neu Mawrth.”
Cadwch olwg ar ffrwd Twitter a thudalen Facebook y cerddor unigryw yma am fanylion pellach felly.