Mae pleidlais Gwobrau’r Selar bellach ar agor!
Mae modd i unrhyw un fwrw pleidlais unwaith dros y 12 categori trwy app pleidlais Facebook Gwobrau’r Selar.
Ar ôl cyfnod o wahodd enwebiadau ar gyfer y categoriau gan y cyhoedd, bu Panel Gwobrau’r Selar 2016 yn ystyried yr enwau oedd wedi eu henwebu ym mhob categori. Mae’r 10 sydd ar y panel wedi dewis eu ffefrynnau’n gyfrinachol, ac rydym wedi llunio rhestrau hir ar sail eu dewisiadau.
Mae tri categori sy’n cynnwys popeth sy’n gymwys, sef ‘Record Hir Orau’, ‘Record Fe Orau’ a ‘Fideo Gorau’.
Bu’n flwyddyn ardderchog i gerddoriaeth Gymraeg gyfoes, ac rydan ni’n disgwyl i nifer o’r categoriau fod yn agos iawn.
Yn sicr mae categori ‘Band neu Artist Newydd’ yn un i gadw golwg arno gyda llwyth o artistiaid newydd yn dod i amlygrwydd yn 2016.
Mae wedi bod yn flwyddyn dda o ran recordiau hir hefyd, gydag 17 cymwys ar y rhestr i chi fwrw pleidlais drostynt.
Bydd pleidlais Gwobrau’r Selar ar agor nes hanner nos, nos Sul 8 Ionawr, ond peidiwch oedi cyn bwrw’ch pleidlais.
Os nad oes gennych gyfrif Facebook, peidiwch poeni, gyrrwch eich pleidlais i ni dros ebost gwobrau-selar@outlook.com. Gallwch weld y rhestrau hir eleni fan hyn.
Tocynnau Gwobrau ar werth
I gydfynd ag agor pleidlais Gwobrau’r Selar, mae tocynnau’r digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 18 Chwefror, bellach ar werth.
Gallwch brynu tocyn nawr am y pris cynnar arbennig o £12 – bydd y pris yn codi i £15 yn nes i’r dyddiad.
Defnyddiwch y botwn Paypal isod i archebu eich tocynnau nawr.