Wrth i’r Nadolig agosáu, mae’r partïon yn dechrau a digon o ddanteithion cerddorol yn y cracyrs i’ch difyrru. Dyma’n detholiad ni yr wythnos hon.
Gig: Cate le Bon, Tim Presley – Neuadd Ogwen, Bethesda. Sul 11 Rhagfyr
Os ydach chi o fewn cyrraedd i Benllyn heno, yna mae Cowbois Rhos Botwnnog yn chwarae yng Nghlwb Rygbi Pwllheli gyda Patrobas a Pyroclastig yn cefnogi – mae hon yn un o gyfres o gigs i ddathlu pen-blwydd Ysgol Botwnnog yn 400 oed.
Rydan ni’n hoffi be mae Bubblewrap Records yn ei wneud, ac mae eu parti Nadolig blynyddol yn y Gwdihw yng Nghaerdydd ddydd Sul, gyda Rhodri Brooks, Little Arrow a The Gentle Good ymysg y perfformwyr.
Ein dewis ni yr wythnos yma ydy Cate le Bon, wrth iddi ddechrau ar ei thaith yn Neuadd Ogwen, Bethesda nos Sul cyn ymweld â 10 o leoliadau eraill cyn y Nadolig. Y canwr-gyfansoddwr o America, Tim Presley, sy’n cefnogi.
Cân: ‘Tonnau’ – Panda Fight
Er bod ‘na gwpl o rai newydd wedi codi eu pennau salw dros y dyddiau diwethaf, rydan ni’n llwyddo i osgoi cân Nadolig yr wythnos hon.
Yn hytrach na hynny, dyma sengl fydd allan ar ôl y Nadolig, ac yn wir yn y flwyddyn newydd – 10 Ionawr i fod yn fanwl gywir.
Panda Fight ydy prosiect newydd Alun Reynolds, o enwogrwydd JJ Sneed a’i airsax anhygoel yn gig Hanner Cant
Rydan ni’n eithaf hoffi sŵn retro hon, ac mae ‘na fideo fach hefyd.
Artist: Y Llongau
Mae’n debyg bod y rhan fwyaf sy’n darllen hwn yn gyfarwydd â Dyl Mei fel seid-cic Tudur Owen a gwyddionadur gwybodaeth diwerth Radio Cymru, ond bydd tipyn ohonoch chi hefyd yn gwybod mai cerddor ydy o go iawn.
Mi wnaeth o’i farc gyntaf fel aelod o’r grŵp hip-hop gwych Pep le Pew, cyn mynd ymlaen i greu Genod Droog gyda Gethin Evans, Ed Holden, Nei Karadog a Carwyn ‘Y Dyn Gwyllt’ Jones. Mae o hefyd wedi bod yn ran o brosiectau Y Lladron a Mehefin y Cyntaf.
Ei brosiect unigol amlycaf ydy Y Llongau, ac fe wnaeth Y Selar gyhoeddi cyfweld ynglŷn â’r prosiect yn rhifyn Ebrill 2012. Gan ein bod ni wedi gweld Dyl yn trydar heddiw yn atgoffa pawb fod llwyth o’i gerddoriaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf ar ei safle Soundcloud, roedden ni’n meddwl ei bod yn amserol i roi sylw i Y Llongau unwaith eto.
Sŵn seicadelig reit epig sydd i’w ganeuon, a dyma ‘Y Nant’ o 2010 i roi blas i chi:
Record: Cofiwch Dryweryn – Y Ffug
Mae Ffug yn cefnogi Super Furry Animals yn Llundain a Birmingham penwythnos yma, yn ogystal ag yng Nghaerdydd nos Sadwrn nesaf.
Cyfle i wrando eto ar eu EP cyntaf ardderchog, Cofiwch Dryweryn, a ryddhawyd yn 2014 felly…pan oes ‘na ‘Y’ yn eu henw nhw!
Dyma’r hyfryd ‘Cariad a Thrais’ o’r EP.
Ac un peth arall…:: Cythral canu
Mae’r ymddangos mai hon ydy’r wythnos i lansio cystadlaethau pop yng Nghymru. I’r rhai sydd â’u bryd ar fod yn seren nesa’r sin, mae ‘na ddwy gystadleuaeth o ddiddordeb i chi.
Yn gyntaf, mae ‘Pwy Geith y Gig?’ ar S4C yn chwilio am gystadleuwyr ar gyfer cyfres 2017. Os ydach chi rhwng 11 a 16 oed, ac eisiau bod mewn band, wel dyma’r cyfle i chi ennill eich lle mewn ‘siwpyr grŵp’ fydd yn cael eu mentora gan arbenigwyr yn y maes cerddoriaeth. Bydd cyfle i’r grŵp terfynol gyfansoddi cân newydd, a pherfformio ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gwybodaeth lawr ar wefan ‘Pwy Geith y Gig?’
Ac i’r rhai ohonoch chi sydd eisoes mewn band, neu’n ystyried creu un gyda ffrindiau, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio Brwydr y Bandiau 2017 yn ystod yr wythnos, gyda llu o wobrau i’r band ddaw i’r brig yn Eisteddfod Môn fis Awst.