Dyma’ch argymhellion cerddorol wythnosol gan griw Y Selar.
Gig: Estrons, Mellt, Cpt Smith – Clwb Ifor Bach, Caerdydd. Nos Wener 11 Tachwedd
Mae ‘na lwyth o gigs bach da dros y penwythnos, felly dim esgus i beidio mynd allan i fwynhau bach o gerddoriaeth fyw.
Mae Y Niwl yn gwneud gig yn Y Parrot yng Nghaerfyrddin gyda Palenco nos Wener, mewn noson sy’n cael ei hyrwyddo gan Beast PR.
Rydan ni wedi sôn gwpl o weithiau yn newyddion gwefan Y Selar am gig lansio albwm newydd The Gentle Good, sy’n digwydd yn Eglwys Sant Ioan, Treganna nos Wener. Cyfle gwych i glywed caneuon yr albwm newydd mewn awyrgylch arbennig.
Mae taith Make Noise Cymru yn parhau, ac yn symud i Aberystwyth felly cyfle i chi ddal yr anhygoel R. Seiliog yn Rummers nos Sadwrn, yn ogystal â’r band arall sydd ar y daith, Stealing Sheep. Y si ar y stryd yn Aber ydy bod Mellt am berfformio hefyd, felly chwip o gig.
Mae pob un o’r rhain yn opsiynau da i chi, ond ein prif ddewis ni yr wythnos hon ydy’r lein-yp gwych sydd gan Clwb Ifor Bach i’w gynnig nos Wener. Tri o fandiau mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd mewn un noson. Da rŵan.
Cân: ‘I Afael yn Nwylo Duw’ – Twinfield
Ychydig iawn rydan ni’n ei wybod am Twinfield, heblaw ei fod o’n gynhyrchydd cerddorol o Gaerdydd, sy’n hoffi arbrofi gyda cherddoriaeth electoneg.
Mae cymaint â hynny’n amlwg o glywed ei sengl gyntaf sydd allan yr wythnos hon. Gallwch fachu copi o’r sengl ar ffurf casét ar wefan y label newydd ‘Neb’, ond bydd rhaid i chi frysio gan mai nifer cyfyngedig ohonyn nhw sydd ar gael.
Os ydach chi’n hoffi pop electroneg fyddwch chi wrth eich bodd â hon – ma hi’n blwmin grêt yn ein barn ni!
Artist: Cpt Smith
Mae’n wythnos arwyddocaol iawn i un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd. Fe ryddhaodd Cpt Smith eu sengl cyntaf fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar llynedd, ac yr wythnos yma maen nhw’n rhyddhau eu EP cyntaf, Propeller, ar label Ikaching.
Byddwch chi’n ymwybodol bellach hefyd bod rhifyn newydd o’r Selar allan, ac mae’r grŵp o ardal Caerfyrddin wedi cyrraedd clawr eich hoff gylchgrawn cerddoriaeth, gyda chyfweliad difyr gyda’r ffryntman, Ioan Hazell, rhwng y cloriau.
Mae Cpt Smith yn perfformio ddwywaith yng Nghaerdydd ddydd Gwener i nodi lansiad yr EP – yn gyntaf yn siop recordiau Spillers am 17:30, cyn anelu draw i berfformio yng Nghlwb Ifor Bach gyda’r hwyr (gweler ein dewis o gig yr wythnos uchod).
Y sengl ‘Llenyddiaeth’ a ryddhawyd yn gynharach eleni, sy’n agor y casgliad #tiiiiwn:
Record: Fforesteering – CaStLeS
Reit, di hon ddim allan nes wythnos nesaf, ond gallwch rag-archebu copi caled ar wefan CaStLeS rŵan felly digon o reswm i ni ddewis albwm cyntaf CaStLeS fel record yr wythnos.
Mae o hefyd yn esgus da i roi plyg arall i rifyn newydd sbon danlli Y Selar sydd allan wythnos yma, gan fod cyfweliad gyda’r grŵp rhwng y cloriau.
Mae’n gyfle da i ni ddefnyddio’r fideo yma ohonyn nhw’n perfformio un o ganeuon yr albwm, ‘Ar Agor’ yn stiwdio Ochr 1.
Ac un peth arall…: Fideo amgen ‘Patio Song’
Randym braidd, ond mi wnaeth y cyflwynydd Louis Theroux drydar dolen i’r fideo yma ddydd Mawrth…
Ia, felly fel y gwelwch chi, be sydd gyda ni yma ydy fideo o’r actores enwog ac un o secs symbols mwyaf canol yr ugeinfed ganrif, Brigiette Bardot, yn gwneud dawns ryfedd gydag ymbarél, a hynny i alawon hyfryd ‘Patio Song’ gan y Gorky’s Zygotic Mynci yn gefndir.
Nethon ni ddeud ‘randym’ yn do! Ond rydan ni’n hoffi, ac yn meddwl y byddwch chi’n mwynhau. Dawnsio gwallgof i un o’r caneuon dwy-ieithog gorau erioed – be sydd ddim i’w hoffi?
Dim clem pwy ydy Brit Zissou sy’n gyfrifol am hwn, ond ma isho medal ar y boi.