Dyma’ch argymhellion cerddorol wythnosol gan griw Y Selar.
Gig: Make Noise Cymru gyda Stealing Sheep, R. Seiliog a Mwstard – Y Parot, Caerfyrddin, Nos Wener 14 Hydref
Mae ‘na lot o gigs bach amrywiol y penwythnos yma – rhywbeth i bawb gallech chi ddweud.
Os nad ydach chi wedi bod yn byw mewn ogof, byddwch chi’n gwybod bod gig olaf Y Bandana am byth bythoedd (nes iddyn nhw gael cynnig £10,000 i berfformio yng Ngŵyl y Faenol rhybryd) yng Nghaernarfon nos Wener…ond gan bod y tocynnau i gyd wedi hen fynd does dim pwynt i ni awgrymu i chi fynd yno rhag eich siomi.
I’r rhai ohonoch chi sy’n hoffi dos o hiwmor gyda’ch cerddoriaeth, mae’r Welsh Whisperer a Hywel Pitts yn y Llew Du yn Nhal-y-Bont heno.
Yn ogystal â hynny mae Ysgol Sul a Chroma yn chwarae gig Shwmae Sumae! ym Mhontypridd, ac mae ‘na ddau gig Georgia Ruth Williams yn y Chapter yng Nghaerdydd nos Sadwrn a Sul.
Ond, mae’r Selar yn credu’n gryf mewn ailgylchu, ac os ydach chi’n cael cerddoriaeth wych fel gwobr am ailgylchu, wel gorau oll. Ewch â hen eitem trydanol gyda chi i’r Parot yng Nghaerfyrddin heno (nos Wener) ac fe gewch chi weld Stealing Sheep, Mwstard a’r anhygoel R. Seiliog yn rhad ac am ddim!
Cân: ‘Cloddio Unterdach’ – R. Seiliog
Sori os ydan ni braidd fel tôn gron, ond wythnos R. Seiliog ydy hi yr wythnos hon heb os!
Rhyddhawyd sengl newydd y gŵr o Beniel ger Dinbych ddydd Mercher, fel tamaid bach i aros pryd cyn rhyddhau ei EP newydd Shedhead ar 18 Tachwedd.
Mae ‘Cloddio Unterdach yn crynhoi popeth sy’n dda am R. Seiliog – synau electroneg arallfydol a hyfryd. Da.
Artist: Plyci
Er y temtasiwn i ddewis R. Seiliog fel artist Pump i’r Penwythnos yr wythnos hon, mi fyddai hynny’n gwneud ni bach yn crîpî…felly gwell osgoi!
Felly rydan ni wedi penderfynu ar artist electronig arall o’r gogledd, sydd wedi bod yn gymharol dawel yn ddiweddar, ond sy’n debygol o fod yn amlycach dros y misoedd nesaf.
Sypreis bach hyfryd oedd gweld ‘samplyr’ albwm newydd Plyci, sef prosiect electro Gerallt Ruggiero, yn ymddangos ar Soundcloud ddydd Iau.
Ac o holi Gerallt ymhellach, daeth sypreis bach brafiach fyth o ddeall bod ei albwm newydd allan ar ei safle Bandcamp heddiw!
Enw’r casgliad newydd ydy Golau Isel, ac mae’r albwm 10 trac wedi’i recordio adref gan Gerallt dros y misoedd diwethaf. Mae’n dilyn triawd o EPs gan y cerddor sef Flump, Mwgwd a Booh.
Dyma’r samplyr i chi gael blas:
Record: Adfeilion – The Gentle Good
Amhosib anwybyddu albwm newydd un o hoff bobl Y Selar, The Gentle Good.
Mae ‘Ruins / Adfeilion’ allan heddiw a bydd The Gentle Good yn perfformio yn siop recordiau Spillers yng Nghaerdydd am 17:30 p’nawn ‘ma.
Bydd lansiad mwy sylweddol yn Eglwys Sant Ioan yn Nhreganna fis nesaf, ond os ydach chi’n digwydd bod yn y brifddinas galwch mewn i Spillers nes mlaen da chi.
Er bod Y Selar wedi rhag archebu’r record feinyl, sy’n edrych yn hyfryd iawn gyda llaw, dydan ni heb glywed y record yn llawn eto. Ond, mae ‘na fideos o gwpl o draciau’r albwm wedi ymddangos, a dyma i chi ‘Pen Draw’r Byd’ isod:
Ac un peth arall…: Cpt Smith a Dave Datblygu
Yr wythnos hon bu ffotograffydd Y Selar, Betsan Haf (@celfcalon) yng Nghaerfyrddin i dynnu lluniau o Cpt Smith ar gyfer rhifyn nesaf Y Selar. Tra roedden nhw wrthi, pwy ddaethon nhw ar ei draws ond neb llai na David R. Edwards – un o eiconau mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg, ac enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni.
Roedd Dave yn gyfrifol am greu peth o gerddoriaeth mwyaf arloesol yr iaith Gymraeg yn y 1980au a 90au, a gan bod gennym ni obeithion mawr o weld Cpt Smith yn datblygu i fod yn un o fandiau amlycaf y sin, roedd yn reit briodol eu gweld gyda’i gilydd.
Mi wnaeth Betsan daro hunlun bach ohoni hi, Cpt Smith a Dave ar Twitter ac rydan ni wrth ein bodd efo hwn.