Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres newydd ar wefan Y Selar lle byddwn ni’n argymell 5 peth cerddorol i helpu gwneud eich penwythnos yn un gwych.
Gig: Ha’ Bach Y Fic – Tafarn y Fic, Llithfaen
Mae’r ŵyl fach yma’n cael ei chynnal yn un o dafarnau mwyaf adnabyddus y Gogledd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Mae’r enw’n addas, gan bod rhyw deimlad diwedd tymor gŵyliau’r haf iddi.
Gyda swp o artistiaid gwerin a chyfoes yn perfformio, mae’n lein-yp amrywiol ac yn addo bod yn ddigon o hwyl. Mae ‘Noson yn y Llofft’ yn dechrau’r penwythnos heno (nos Wener) gyda set acwstig prin gyda Bryn Fôn – dylai fod yn ddiddorol.
Dydd Sadwrn ydy’r diwrnod mawr gydag wyth o artistiaid yn perfformio – Tegid Rhys, Welsh Whisperer, Jambyls, Cowbois Rhos Botwnnog, Brython Shag, Gwerinos, Patrobas a Gai Toms a’r Band.
Cân: ‘Clarach’ – Los Blancos
Mmmmm, dyma chi diwn fach hyfryd rydan ni wedi dod ar ei thraws yn ystod yr wythnos.
Band newydd o ardal Caerfyrddin ydy Los Blancos, gyda thri o aelodau – Osian, Dewi a Gwyn – ond “gyda gobaith ychwanegu” yn ôl y band.
“Ni’n gobeithio recordio a gigio mwy yn y misoedd nesaf” medden nhw wrth Y Selar, ac mae ein disgwyliadau ni’n uchel ar ôl clywed y demo hyfryd ‘Clarach’ sydd hyd y gwyddom ni’n deyrnged i’r pentref gwyliau glan môr ger Aberystwyth.
Mae ‘na adlais o sŵn low-fi grŵp arall o Sir Gân, Ysgol Sul, i gân gyntaf yma i ymddangos ar eu llif Soundcloud, ac rydan ni wrth ein bodd efo hi.
Band: Alun Gaffey
Nid band fel y cyfryw yr wythnos hon, ond artist unigol…sy’n chwarae’n fyw efo band!
Mae wedi bod yn wythnos dda i Alun Gaffey, sy’n gyn-aelod o Pwsi Meri Mew, a Radio Luxemburg / Race Horses. Cyhoeddwyd ddiwedd wythnos diwethaf bod ei albwm cyntaf gwych wedi cyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, ynghyd â nifer o albyms Cymraeg eraill. Tipyn o gamp. Gallwch ddarllen adolygiad o’r albwm ffync-wych yma yn rhifyn mis Mawrth o’r Selar.
Mae Gaff yn gigio yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos, gyda gig yn y Parot nos Sadwrn, ac mae ‘na gefnogaeth wych ar ffurf Argrph, Adwaith a Pentre Cudd. Ewch draw os ydach chi’n y Gorllewin penwythnos yma.
Dyma Gaff yn perfformio ar Bandit efo Pwsi Meri Mew rai blynyddoedd yn ôl…
Record: Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg – Cate le Bon
Un fach o’r archif wythnos yma. Artist arall sydd wedi ei henwebu ar gyfer y Welsh Music Prize ydy Cate Le Bon gyda’r albwm Crab Day. Dyma’r trydydd tro iddi gyrraedd y rhestr fer gyda Cyrk yn cael ei enwebu yn 2011-12 a’r ardderchog Mug Museum yn 2013-14.
Cyn llwyddiant rhyngwladol yr albyms yma, fe wnaeth Cate ryddhau EP o draciau Cymraeg ar label Peski nôl yn 2008, sef Edrych yn Llygaid Ceffyl Benthyg, oedd yn cynnwys traciau bendigedig fel ‘Mas Mas’ a ‘Byw Heb Farw’.
Mae’r EP ar iTunes, ond gyda Peski bellach wedi dod i ben gall fod yn anos cael gafael ar gopi caled, ond mae’r werth cael golwg os fyddwch chi’n taro mewn i’ch siop lyfrau Cymraeg neu siop recordiau lleol.
Dyma Cate yn perfformio ‘Hwylio Mewn Cyfog’ yn stiwdio rhaglen Bandit ‘slawer dydd:
Ac un peth arall…: Sgwrs am Y Dydd Olaf – Y Babell Lên, Steddfod Y Fenni
Nofel Y Dydd Olaf gan Owain Owain sydd wedi ysbrydoli yr albwm o’r un enw gan Gwenno, sef enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn y Steddfod llynedd.
Fe gynhaliwyd sgwrs am y nofel rhwng Lisa Gwilym, Gwenno Saunders a Robin Llwyd ab Owain yn Y Babell Lên yn Eisteddfod y Fenni, a darlledwyd rhannau o’r sgwrs ar raglen Lisa Gwilym ar C2 yr wythnos hon. Mae’r sgwrs yn un ddifyr, ac yn deilwng i chi wrando nôl ar y rhaglen ar wefan Radio Cymru (tua 2:16:00).