Pump i’r Penwythnos 16 Rhagfyr 2016

Mae hwyl yr ŵyl ar gychwyn, ac mae ‘na ddigonedd o ddanteithion cerddorol ar y goeden Nadolig eleni. Dyma ddetholiad o’r hyn sydd ar gynnig y penwythnos yma

Gig: Ffug, Argrph, Adwaith, Los Blancos – Gwdihŵ, Caerdydd. Mawrth 20 Rhagfyr

Mae’n siŵr mai gig mawr y penwythnos ydy hwnnw yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon nos Sadwrn – y cyntaf o gyfres o gigs yn y lleoliad poblogaidd dros y Nadolig eleni. Mae’n dipyn o lein-yp nos Sadwrn gyda’r brenin Bryn Fôn yn hedleinio, a chefnogaeth ardderchog ar ffurf Gai Toms a Magi Tudur.

Os ydach chi’n ardal Conwy, mae cyfle i chi weld Aled Rheon yn perfformio nos Sadwrn ym Mharti Nadolig Academi Frenhinol Cambrian. Mae Sera hefyd yn chwarae, ond mae tocynnau’n brin yn ôl pob tebych felly brysiwch i archebu un os ydach chi am fynd.

I’r rhai sy’n Abertawe, gallwch ddal Bromas yn Nhŷ Tawe heno, gyda chefnogaeth gan Y Gwdihws.

Ac wrth i’r Nadolig agosáu, mae’r penwythnosau’n ymestyn…ac rydan ni’n ymestyn ffiniau amser Pump i’r Penwythnos yr wythnos yma i adlewyrchu hynny! Mae ‘na lein-yp na ellir ei anwybyddu yn y Gwdihŵ yng Nghaerdydd nos Fawrth wrth i Decidedly Records gynnal eu parti Nadolig. Ac mae’r lein-yp yn un fyddai unrhyw un yn falch o’i weld yn sach Santa, gyda Ffug yn hedleinio a chefnogaeth gan driawd o fandiau ifanc ardderchog o Gaerfyrddin – cracar o gig.

Cân: ‘Diwedd Gwanwyn Trafwyddol Max Rochatansky’ – Hyll

Mae’n dewis o gân yr wythnos hon allan ers yr haf ar label JigCal, ond roedden ni’n teimlo ei bod wedi ei cholli braidd bryd hynny, a’i bod yn bryd i’w hatgyfodi….yn enwedig gan eu bod nhw newydd ei llwytho i Soundcloud.

Tiwn bach fachog iawn gan y triawd ifanc o Gaerdydd, ac rydan ni’n disgwyl gweld rhain yn datblygu tipyn yn 2017.

Artist: Ian Rush

Yn y 1980au a’r 1990au roedd ‘na bêl-droediwr enwog iawn i Gymru o’r enw Ian Rush, oedd yn dod o ardal Y Fflint, ac oedd yn serennu i Lerpwl a Chymru.

Yn yr un cyfnod, ar ddechrau’r 90au, roedd ‘na hefyd fand gwych o’r un ardal, o’r Wyddgrug i fod yn fanwl gywir, oedd yn rhannu enw’r pêl-droediwr hwnnw. Gofynnwch i unrhyw un oedd yn dilyn y sin Gymraeg yn y cyfnod yna, a byddwch chi’n siŵr o gael yr ymateb ‘ia, band da’ neu debyg wrth holi am Ian Rush. Er hynny, wnaethon nhw ddim rhyddhau rhyw lawer o gynnyrch ar y pryd, er bod gîcs hanes cerddoriaeth Cymraeg Y Selar yn cofio EP ar gasét gyda llun wy ar y clawr o bosib. Fe wnaethon nhw hefyd recordio sesiwn i’r DJ Radio 1 chwedlonol, John Peel, a rhyddhau trac gwych ‘Dal heb fy Nal’ ar gasgliad ardderchog Ap Elvis gan label Ankst yn 1993.

Wel, mae Ian Rush nôl yn gigio’n weddol rheolaidd ac mae ‘na si am albwm newydd ar y gweill. Maen nhw wedi rhyddhau can Nadoligaidd o’r archif hefyd, cân oedd wedi ei recordio fel rhan o’r sesiwn Peel hwnnw, sef ‘Catrin Nadolig’ a gallwch ei chlywed isod.

Os ydach chi yn y Gogledd Ddwyrain dros gyfnod y Nadolig, mae’r grŵp yn gigio yn Yr Wyddgrug ar 28 Rhagfyr gyda Chôr y Pentan yn cefnogi!

Record: Sawl Ffordd Allan – Al Lewis

Mae wedi dod yn bach o draddodiad i Al Lewis gynnal sioeau Nadolig erbyn hyn, ac mae’n cynnal rhain eleni yn Eglwys Sant Ioan yn Nhreganna heno (16 Rhagfyr) a nos fory.

Ac mae ganddo gefnogaeth arbennig yn y gigs eleni ar ffurf Carwyn Colorama a Lily Beau.

Esgus da i fwrw golwg nôl ar ddiscograffi Al felly, ac i gofio am ei albwm cyntaf ardderchog, Sawl Ffordd allan, a ryddhawyd gan Sain yn 2009.

Roedd yr albwm yn cynnwys nifer o draciau cofiadwy gan gynnwys ‘Gwenwyn’ gyda Meic Stevens yn cyfrannu, ‘Doed a Ddel’, ‘Tybed Be Ddaw’ a’r hyfryd ‘Lle Hoffwn Fod’.

Ac un peth arall…:: Agor pleidlais Gwobrau’r Selar

Anaml fyddwn ni’n defnyddio Pump i’r Penwythnos ar gyfer pwrpasau hunan-hyrwyddo, ond mae’n anodd peidio yr wythnos hon.

Newyddion mawr yr wythnos ydy bod pleidlais Gwobrau’r Selar 2016 bellach ar agor! Mae gofyn i chi gael cyfrif Facebook i bleidleisio trwy’r app pleidlais, ond os nad oes ganddoch chi gyfrif ar y cyfrwng hwnnw, yna gallwch fwrw pleidlais dros e-bost – dyma’r rhestrau hir.

Os nad ydy hynny’n ddigon cyffrous, mae tocynnau’r Gwobrau, sy’n digwydd ar 18 Chwefror, ar werth rŵan hefyd!

Dyma Yws Gwynedd yn chwalu hi yn y Gwobrau diwethaf nos ym mis Chwefror.