Isho’ch fics o bump peth cerddorol ar gyfer y penwythnos? Dyma fo…
Gig: Candelas a Maffia Mr Huws – Neuadd Buddug, Y Bala (nos Wener 23/10/16)
Be well na gig Candelas ar eu hôm patsh? Ma criw Bala’n barod iawn i deithio i bob cwr o’r wlad i weld y grŵp lleol yn perfformio, ond bob hyn a hyn mae’r hogia’n gwobrwyo’r ffans ffyddlon gyda gig fach yn Neuadd Buddug…ac maen nhw wastad yn glamp o nosweithiau.
Nos Sadwrn yma (24 Medi) mae ganddyn nhw gefnogaeth go arbennig ar ffurf un o grwpiau pwysicaf a mwyaf eiconig Maffia Mr Huws. Er eu bod nhw wedi gwneud ambell gig dros y blynyddoedd diwethaf, go brin ydy gigs Maffia felly mae’n werth gwneud yr ymdrech…ac mae Candelas wastad yn cynnig sioe wych wrth berfformio’n fyw.
Manylion llawn ar y digwyddiad Facebook.
Cân: ‘Siren’ – Lewys Meredydd
Bob hyn a hyn mae rhywun yn dod ar draws pethau bach hyfryd trwy hap a damwain, a’r wythnos hon mae’r Selar wedi digwydd baglu ar draws cerddoriaeth gŵr ifanc o’r enw Lewys Meredydd.
Rydan ni’n lled gyfarwydd â Lewys fel cerddor ifanc (iawn) ac addawol (iawn) o Ddolgellau – roedd o’n un o’r cerddorion gafodd eu dewis i fod yn y band a grëwyd fel rhan o’r gyfres ‘Pwy Geith y Gig’ ar S4C yn gynharach eleni.
Yr wythnos hon mae o wedi llwytho dwy gân newydd i’w ffrwd Soundcloud. Mae’r ddwy yn reit wahanol felly mae’n werth i chi wrando ar ‘Effraim – Sut i Garu’ sy’n diwn roc ffynci fach ddigon bachog. Rydan ni’n disgwyl cadarnhau ynglŷn ag ydy’r trac yn gyfeiriad at Yr Athro Ephraim Efflwffia sy’n un o sêr cyfres llyfrau Tintin…
Ond rydan ni wedi penderfynu canolbwyntio ar yr ail drac, sef ‘Siren’ sy’n gân electronig hudolus. Edrych mlaen i glywed mwy gan y boi yma.
Band: Tusk
Darganfyddiad bach arall diddorol! Mae rhain wedi ymddangos ar Twitter a Soundcloud ers rhyw dair wythnos, ond dim ond dros y dyddiau diwethaf rydan ni wedi dod ar eu traws nhw.
Mae ‘na drac newydd wedi ymddangos ganddyn nhw ddydd Iau yr wythnos hon, sef ‘Mantra’, sy’n cynnwys llais neb llai nag Iwan Fôn o Y Reu ac mae’n dipyn o diwn.
Felly pwy ydy Tusk? Wel, Arron Hughes ydy’r gŵr sy’n gyfrifol am Tusk, ac mae dod o Fethel rhwng Bangor a Chaernarfon. Prosiect unigol ydy Tusk ar hyn o bryd ac mae Arron yn ysgrifennu, recordio a chynhyrchu traciau i gyd adref yn ei ‘stafell wely.
Dywedodd Arron wrthon ni bod “EP ar y ffordd yn fuan, sy’n cynnwys caneuon offerynnol, Saesneg a Chymraeg – gawn ni weld sut eith petha!” Rhywbeth i edrych mlaen amdano felly ond mae ‘Mantra’ a’r trac Saesneg ‘Permission’ (fideo isod) yn dameidiau bach blasus i aros pryd.
Record: Chwalfa – Cofi Bach a Tew Shady
Record arall o’r archif yr wythnos hon. Fwy neu lai union 10 mlynedd yn ôl (25 Medi 2006 i fod yn fanwl gywir) fe gafodd un o’r albyms hip-hop Cymraeg gorau erioed ei ryddhau, sef Chwalfa gan y ddeuawd Cofi Bach a Tew Shady.
Roedd canol y 2000s yn oes aur i gerddoriaeth rap Cymraeg diolch i Pep le Pew, Lo Cut a Sleifar, MC Mabon, Kenavo, Saizmundo, MC Peryg a llawer mwy. Ac yng nghanol y chwyldro oedd y ddeuawd unigryw yma o Gaernarfon – Kerry Walters a Gronw Roberts.
Dydan ni ddim yn teimlo bod yr albwm yma wedi cael sylw teilwng, ac mae’n bryd i’r byd ail-ddarganfod Chwalfa gyda thraciau gwych fel Gobzilla, 4 Wal a Symud ymlaen.
Rydan ni’n meddwl bod modd cael gafael ar yr albwm trwy wefan Spillers, ac mae modd gwrando ar gwpl o’r traciau ar MySpace…cofio hwnnw rywun?! Mae’r albwm ar Last FM hefyd.
Dyma fideo Gobzilla o ddyddiau Bandit:
Ac un peth arall…: Fideo ‘Pen Draw’r Byd’ – The Gentle Good
Mae pedwerydd fideo y canwr-gyfansoddwr gwych o Gaerdydd, The Gentle Good, ar y ffordd gyda’r dyddiad rhyddhau ar 14 Hydref.
Ruins/Adfeilion ydy enw’r albwm newydd, ac mae’n cael ei ryddhau ar label Bubblewrap Collective.
I nodi hyn, mae ambell fideo o ganeuon o’r albwm wedi ymddangos dros y dyddiau diwethaf, a hynny ar wefan FRUK.
Cafodd y fideos yma eu saethu yng nghanolfan Celfyddydau The Gate yn y Rhath gan Toby Cameron a Richard Crandon o On Par Productions. Llion Robertson sydd wedi recordio’r sain a’r cerddorion sy’n ymuno â Gareth Bonello I berfformio ynddyn nhw ydy Callum Duggan ar y bas, a Jennifer Gallichan yn canu.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Pen Draw’r Byd’: