Pump i’r Penwythnos 25 Tachwedd 2016

Am yr ail wythnos yn olynol, mae’n glamp o benwythnos o ran cynnyrch newydd a gigs felly digon o ddanteithion cerddorol i’r cadw chi’n hapus. Dyma ddetholiad Y Selar….

Gig: Mr Huw, Dau Cefn, DJ Sawscaws – Neuadd Ogwen, Bethesda. Gwener 25 Tachwedd

Digon o gigs da i ddewis ohonyn nhw yr wythnos hon eto – mae sin fyw yn…weld, byw ac iach ar hyn o bryd yn sicr.

Os ydach chi yng Nghaerdydd yna beth am fynd draw i gig lansio EP newydd Aled Rheon yng Nghanolfan y Chapter heno (nos Wener 25 Tachwedd) – mae’n addo ‘ambell sypreis’ yn ôl ei gyfweliad diweddar â’r Selar.

I unrhyw un yn ardal Abertawe, mae’r anfarwol Huw Bobs Pritchard yn perfformio yn Nhŷ Tawe heno (Gwener), a’r gig yn rhad ac am ddim.

Hefyd yn y De Orllewin, mae gig fach dda gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Parot, gydag Ysgol Sul, CaStLeS a Mobinagi yn y Parot nos Wener.

Ond yn y gogledd mae’n dewis ni yr wythnos hon, wrth i Mr Huw lansio ei bumed albwm, Gwna Dy Feddwl i Lawr, yn Neuadd Ogwen heno. Mae Mr Huw bob amser yn cynnig rhywbeth bach gwahanol, ac mae’r anhygoel Dau Cefn yn cefnogi – gwychder.

Cân: ‘Clêr yn y Briw’ – Y Gwenwyn

Yn achlysurol mae’r artist o Landeilo, Y Gwenwyn, yn taflu cân fach newydd i fyny ar ei Souncloud…a’r wythnos hon fe welwyd un o’r achlysuron hynny.

Mae ‘Clêr yn y Briw’ yn gan bop fach dda, gydag adlais o sŵn y saithdegau yn perthyn iddi a riff gitâr cofiadwy yn ei harwain.

Artist: Gruff Rhys

Go brin fod angen cyflwyniad ar un o gerddorion Cymreig mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth!

Yr wythnos hon fy gyhoeddwyd manylion sioe ‘Set Fire to the Stars’ sydd yn y New Theatr yng Nghaerdydd ar nos Sadwrn 28 Ionawr.

Ffilm am fywyd y bardd o Gymru, Dylan Thomas, ydy ‘Set Fire to the Stars’ ac mae Gruff Rhys wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer y ffilm.

Bydd Gruff yn perfformio caneuon y ffilm yn fyw gydag aelodau o fand Y Niwl yn y New Theatre, a bydd cyfle i bawb weld y ffilm fel rhan o bris y tocyn. Mae tocynnau’n mynd ar werth heddiw (Gwener 25 Tachwedd) ac yn siŵr o werthu’n gyflym.

Record: Carcharorion – Carcharorion

Mae EP newydd y ddeuawd electronig, Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard allan heddiw ac yn werth cael gafael arni.

Dyma ail EP y grŵp o Gaerdydd yn dilyn Hiraeth a ryddhawyd ar label Peski nôl yn 2014. Roedd yr EP cyntaf yn canolbwyntio ar ddefnyddio sampyls amrywiol, gan gynnwys lleisiau Meredydd Evans a Gerallt Lloyd Owen, ond mae’r casgliad newydd yn symud i ffwrdd o hynny a chanolbwyntio ar gyfansoddiadau hollol wreiddiol.

Ymysg y cyfranwyr ar hon mae Heledd Watkins o HMS Morris, a’r basydd Huw V. Williams a dyma i chi flas o’r EP ar ffurf y trac ‘Y Carcharorion’ sy’n cynnwys llais Heledd…

Ac un peth arall…:: Fideo newydd Dau Cefn

Rydan ni eisoes wedi sôn bod Dau Cefn yn cefnogi Mr Huw yn lansiad Gwna Dy Feddwl i Lawr y penwythnos yma.

Fe wnaethon nhw hefyd ddatgelu ddechrau’r wythnos eu bod nhw’n gweithio ar fideo newydd…ac mae’r fideo yma wedi gweld golau dydd ddoe – hwre!

Dyma fideo gwallgof ‘Os Gwelwch yn Dda’…