Pump i’r Penwythnos 7 Hydref 2016

Unwaith eto yr wythnos hon mae ganddom ni bump o berlau cerddorol i chi ar gyfer eich penwythnos.

Gig: Cerddorion yn erbyn Digartrefedd – Pengwern Arms, Llan Ffestiniog, Dydd Sadwrn 8 Hydref

Dewis anodd yr wythnos hon gan bod ambell gig bach da ar y gweill, gan gynnwys taith lansio albwm Bendith gyda gigs yng Nghaernarfon nos Wener ac yn Eglwys Sant Ioan, Treganna nos Sadwrn. Neu beth am gig cyntaf taith yr anhygoel HMS Morris yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd nos Wener.

Ond yr wythnos yma mae ein prif argymhelliad yn fwy o ŵyl nac o gig, a hefyd yn cefnogi achos da. Mae gig ‘Cerddorion yn erbyn Digartrefedd’ yn y Pengwern Arms, LlanFfestiniog ddydd Sadwrn yn un o nifer o gigs i gefnogi’r achos yma, gan gynnwys un yng Nghaernarfon nos Sadwrn ac yng Nghaerdydd nos Sul.

Mae’r lein-yp yn Llan Ffestiniog yn glamp o un da sy’n cynnwys perfformiadau gan Brychan, Sion Owens, Synnwyr Cyffredin, Ffracas, Yr Oriau, Calfari, Radio Rhydd, Brython Shag a Mr Huw. Mae’r drysau’n agor am hanner dydd, gyda cherddoriaeth yn dechrau am 13:00 ac yn rhedeg nes wedi 22:00. Mynd i fod yn un dda.

Cân: ‘Gelynion’ – Yr Oria

Un o’r bandiau sy’n perfformio yn y gig ‘Cerddorion yn erbyn Digartrefedd’ ydy Yr Oria, sy’n debygol o fod yn enw newydd i nifer ohonoch chi. Grŵp o ardal Ffestiniog ydy’r Oriau sy’n cynnwys cwpl o wynebau cyfarwydd sef Garry, canwr Jambyls, a Gerwyn, basydd Sŵnami.

Mae ‘na drac ganddyn nhw wedi ymddangos ar-lein ddechrau’r wythnos, ac rydan ni’n eithaf hoff o hon.

Artist: Georgia Ruth Williams

Mae ‘na lwyth o stwff newydd o ddiddordeb yn dod allan ar hyn o bryd, gan gynnwys albwm diweddaraf y gantores o Aberystwyth, Georgia Ruth Williams. Mae’r caneuon wedi’u recordio ym Methesda, Caerdydd, Llanboidy a Llundain gyda chyfraniadau gan Marta Salogni, David Wrench, Meilyr Jones, Suhail Yusuf Khan ac wrth gwrs brodyr Cowbois Rhos Botwnnog.

I hyrwyddo’r record mae Georgia’n perfformio llond llaw o gigs byw dros yr wythnos nesaf gan gynnwys set yn siop Spillers yng Nghaerdydd am 17:30 p’nawn ma. Dyma’r dyddiadau eraill

11 Hydref – Servant Jazz Quarters, Llundain

15 Hydref – Chapter, Caerdydd (Dim tocynnau ar ôl)

16 Hydref – Chapter, Caerdydd

Record: Albwm Ffug

Wedi hir ymaros, o’r diwedd mae albwm cyntaf y grŵp o Benfro, Ffug (dim ‘Y’ bellach sylwer), yn gweld golau dydd yr wythnos hon.

Mae dwy flynedd ers i EP y grŵp, Cofiwch Dryweryn, gael ei ryddhau ar label Rasp gydag addewid am albwm y fuan. Y sôn oedd bod y grŵp yn recordio yn stiwdio Strangetown gyda Daf Ieuan o’r Super Furry Animals yn cynhyrchu – mi wnaeth Gwyn Eiddior gyfweld y grŵp yn y stiwdio ar gyfer C2 yng Ngorffennaf 2015. Ond eto, flwyddyn yn ddiweddarach doedd dal dim sôn am yr albwm gan un o grwpiau ifanc mwyaf cyffrous Cymru.

Felly mae gweld y record hir yn ymddangos o’r diwedd yn ryddhad mawr i ni!

Roedd ‘na raglen arbennig Ochr 1 (rhybudd cynnwys anaddas!) yn rhoi sylw i’r grŵp ar S4C neithiwr (Iau 6 Hydref), ac mae’r fideo isod o un o’r traciau, ‘Speedboat Dreaming’ yn gwneud y rownds ar sôsial mîdîa – hoffi sŵn hon bois.

Ac un peth arall…: Sesiwn Super Furry Animals yn Maida Vale

Mae’n siŵr bod y rhan fwyaf ohonoch chi sy’n darllen hwn yn gwybod am gynlluniau’r Super Furry Animals i ail-ryddhau eu albwm cyntaf gwych, Fuzzy Logic, ac i gynnal cyfres o gigs dros y gaeaf i nodi 20 mlynedd ers rhyddhau’r record.

Nos Lun, roedd un o’r grwpiau mwyaf erioed i ddod o Gymru yn stiwdio enwog Maida Vale yn Llundain yn perfformio sesiwn byw ar gyfer rhaglen Steve Lamacq ar Six Music.

Roedd yn set ardderchog yn cynnwys caneuon o Fuzzy Logic, yn ogystal ag ambell albwm arall gan gynnwys Pan Ddaw’r Wawr o’r albwm Cymraeg Mwng. Gwerth gwrando hefyd ar gyfweliad nodweddiadol ddoniol Gruff gyda’r cyflwynydd cyn y set.

Gallwch wrando ar becyn uchafbwyntiau bach hanner awr ar wefan y BBC nawr.