Dyma’r ail mewn cyfres newydd ar wefan Y Selar lle byddwn ni’n argymell 5 peth cerddorol ar gyfer eich penwythnos.
Gig: Gŵyl Rhif 6, Portmeirion
Anodd anwybyddu’r ŵyl rwysgfawr ym mhentref Eidalaidd hyfryd Portmeirion. Mae ‘na lwyth o enwau mawr rhyngwladol yn perfformio yno, ond fe wnawn ni ganolbwyntion ar yr artistiaid Cymraeg sydd ar lwyfan Clough.
Mae’r llwyfan dan ofal tîm Sŵn heno (nos Wener) ac yn cynnwys Sŵnami, Estrons, Castles a Palenco ymysg eraill.
Nos fory, criw Nyth a Gŵyl Gwydir sy’n trefnu’r arlwy ac maen nhw wedi trefnu tipyn o lein-yp gydag Ysgol Sul, HMS Morris, Cowbois Rhos Botwnnog, R. Seiliog, Meic Stevens a Topper sydd wedi ail ffurfio ar gyfer cwpl o gigs.
Mae ‘na artistiaid Cymraeg eraill yn perfformio ar lwyfannau amrywiol gan gynnwys Anelog, Lleuwen Steffan, Gwenno a’r anhygoel Geraint Jarman.
Cân: ‘Ysgol’ – Hyll
Band mwyaf prysur eisteddfod Y Fenni? Roedden nhw fwy neu lai’n perfformio’n fyw ar lŵp tu allan i fws y llywodraeth yng nghornel y maes trwy’r wythnos. Rhyfedd iawn…ond rydan ni’n hoffi Hyll oedd yn un o fandiau rownd derfynol Brwydr y Bandiau llynedd, a sydd wedi bod yn weithgar iawn ers hynny chwarae teg.
Maen nhw hefyd yn barod iawn eu cymwynas, ac mae’r basydd, Jac, wedi bod yn rhoi help llaw i Henebion ers i Kris adael y grŵp o Fach ddyddiau cyn y Steddfod.
Mae adolygiad o’u sengl ddiwethaf, ‘Diwedd Gwanwyn Tragwyddol Max Rockatansky’, yn rhifyn diweddaraf Y Selar ac yr wythnos hon fe gafodd eu sengl newydd sbon, ‘Ysgol’, ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Radio Cymru Lisa Gwilym. Ac ‘Ysgol’ ydy’r cân ni ar gyfer y penwythnos hwn.
Band: Topper
Os ydach chi’n mentro (ac yn twrio’n ddwfn i’r boced i brynu tocyn ar gyfer Gŵyl Rhif 6) yna mae’n werth i chi grwydro i lwyfan Clough erbyn diwedd y nos Sadwrn i ddal Topper.
I unrhyw un sydd ddim yn gyfarwydd â nhw, roedd Topper yn grŵp gwych ar ddiwedd y 90au – un o’r llond llaw o grwpiau oedd ar ail reng cŵl Cymru. Wnaethon nhw ddim cyrraedd uchelfannau Catatonia, Super Furry Animals a Gorkys Zygotic Mynci ond fe wnaethon nhw a Melys ymysg eraill greu digon o argraff i ddenu diddordeb yn rhyngwladol.
Ymysg eu clasuron mae ‘Dim’, ‘Hapus’, Cwsg gerdded’ a ‘Gwefus Melys Glwyfys’. Roedden nhw’n fand byw gwych, ac os fydd y fersiwn 2016 o’r grŵp hanner cystal yn fyw ag un 1999 fe fydd yn set cofiadwy.
Record: Tawel yw’r Tymor – Geraint Jarman
Mae Jarman yn cael cwpl o wythnosau prysur iawn o ran gigio, ac mae’n werth cofio bod ei albwm diweddaraf allan – ddeugain mlynedd ar ôl rhyddhau y cyntaf.
Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’i waith blaenorol, albwm o ganeuon acwstig ydy hwn, ac mae’r canlyniad yn drawiadol. Mae adolygiad llawn gan Ciron Gruffydd yn rhifyn diweddaraf Y Selar.
Ac un peth arall…: Ochr 1 ‘Steddfod 2016
I’r rhai ohonoch chi sy’n hiraethu am Steddfod Y Fenni…neu jyst ddim yn cofio rhyw lawer, fe ddarlledwyd rhaglen uchafbwyntiau Ochr 1 nos Iau a gallwch wylio eto ar S4C Clic.