Dyma’r gyntaf mewn cyfres newydd ar wefan Y Selar lle byddwn ni’n argymell 5 peth cerddorol ar gyfer eich penwythnos.
Gig: Gŵyl Crug Mawr
A hithau’n ŵyl y banc does dim prinder gigs a gwyliau ledled Cymru, felly dim esgus dros beidio mynd allan i fwynhau rhywfaint o gerddoriaeth byw y penwythnos yma!
Go brin fod unrhyw lein-yp yn curo un Gŵyl Crug Mawr ger Aberteifi o ran cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Mae’r ŵyl yn dechrau heno (Gwener 26 Awst) gyda lein-yp gwych o fandiau ifanc gorau Cymru gan gynnwys Chwalfa, Cpt Smith, Breichiau Hir, HMS Morris â’r bois lleol Y Ffug.
Fory (Sadwrn) ydy diwrnod mawr yr ŵyl gyda thri llwyfan yn rhedeg yn ystod y dydd. Mae ‘na dipyn o amrywiaeth ar y llwyfannau ond bydd mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys Y Bandana, Bromas, Welsh Whisperer, Uumar, Ail Symudiad ac wrth gwrs Geraint Jarman. Clamp o gig.
Cân: ‘Gaeaf Araf’ – Gruff Sion
Rydan ni’n gyfarwydd â gwaith Gruff Pritchard fel aelod blaenllaw o Yr Ods, ac fel rhan o’r ddeuawd electroneg gwych Carcharorion. Mae o hefyd yn gwneud stwff ar ben ei hun, ac newydd roi’r trac newydd yma i fyny ar ei Soundcloud fel gruffsion.
Mae sŵn hon yn pontio rhwng Carcharorion ac Yr Ods gyda’r elfen electroneg yn amlwg o’r nodyn cyntaf, ond hefyd adlais o waith mwy diweddar Yr Ods, ‘Hiroes i’r Drefn’ yn benodol.
Band: Dau Cefn
Mae cyfle prin i weld y ddeuawd electro / hip-hop chwedlonnol yma’n perfformio’n fyw y penwythnos yma yng Ngŵyl Afanc ym Methesda ddydd Sul.
Mae’r ŵyl yn cael ei disgrifio fel ‘dathliad o sîn gerddoriaeth amgen Cymru’ ac yn sicr mae Dau Cefn yn disgyn i’r categori hwnnw.
Er eu bod nhw’n reit gynhyrchiol o ran cyhoeddi caneuon newydd ar-lein, dydyn nhw ddim yn perfformio’n fyw yn rheolaidd felly manteisiwch ar y cyfle da chi.
Dyma fideo anhygoel ‘Mynd Trwy dy Bethau’ fel tamaid i aros pryd:
Record: Gan Bwyll – Magi Tudur
Mae un o raddedigion Clwb Senglau’r Selar, Magi Tudur yn lansio ei EP cyntaf, Gan Bwyll, dros y penwythnos.
Bydd y gantores addawol yn perfformio rhai o’i caneuon mewn lansiad yn siop Palas Print yng Nghaernarfon am 12:30 fory (dydd Sadwrn).
Fe wnaeth Magi ryddhau ei sengl gyntaf, ‘Coleg Bywyd’, fel rhan o gynllun Senglau’r Selar yn gynharach eleni ac mae’r trac ar CD casgliad Senglau’r Selar sydd allan rŵan.
Ac un peth arall…: Atsain o’r Archif – Radio Cymru
Y bennod ddiweddaraf yn y gyfres ble mae Lisa Gwilym ym chwilota am rai o drysorau prin hanes cerddoriaeth Gymraeg yn ei harchifau.
Mae’r rhaglen ddydd Sul yma’n dod o’r Archif Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac yn wrando angenrheidiol i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes y sin