Ar ddiwedd blwyddyn brysur lle mae’r grŵp amgen…a chydig bach yn wallgof, Rogue Jones, gwneud eu marc, mae’r band wedi rhyddhau sengl ddwbl newydd heddiw (18 Tachwedd).
Mae’r sengl allan ar label Recordiau Blinc, a bydd y trac ‘Human Heart’ yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gwrando ar eu halbwm VU gan bod y trac ar y record honno. Ond mae’r sengl newydd yn cynnwys fersiwn Gymraeg o’r trac, sef ‘Gogoneddus yw y Galon’.
Mae’r sengl ar gael i’w lawr lwytho’n unig, a hynny o’r mannau arferol a hefyd o wefan Recordiau Blinc.
I ddilyn y sengl, mae Recordiau Blinc wedi cyhoeddi y bydd VU yn cael ei ryddhau dros y DU yn ehangach ar 2 Rhagfyr, yn dilyn yr adborth gadarnhaol i’r albwm yng Nghymru.
Mae’r band hefyd wedi rhyddhau fideo hyrwyddo arbennig ar gyfer ‘Gogoneddus yw y Galon’, a gallwch wylio hwn isod.
A phe bai hyn oll ddim yn ddigon, maen nhw’n chwarae dau gig yng Ngogledd Cymru fory, dydd Sadwrn 19 Tachwedd – y cyntaf yn Siop Palas Print yng Nghaernarfon am hanner dydd, ac yna yn gig Bandiau er Budd Ffoaduriaid yn Dr Zigs ar Ystad y Faenol ger Bangor (dechrau am 18:00).