Sgyrsiau eiconau cerddoriaeth yng Ngwobrau’r Selar

Bydd sgyrsiau gydag aelodau dau o grwpiau mwyaf eiconig yr iaith Gymraeg – Y Trwynau Coch a Datblygu – yn cael eu cynnal fel rhan weithgarwch ffrinj Gwobrau’r Selar eleni.

Yn y gyntaf o’r sgyrsiau arbennig, bydd y cyflwynydd radio Richard Rees yn holi Rhys, Aled ac Alun o Y Trwynau Coch – sef efallai grŵp Cymraeg mwyaf dylanwadol diwedd y 1970au. Mae’r sgwrs yn cael ei chynnal yn rhannol i gydfynd ag ail-ryddhau ‘record goll’ gan y grŵp yn arbennig ar gyfer y diwrnod – mwy am hynny isod.

Cyflwynydd Ochr 1, Griff Lynch, fydd yn holi yr athrylith David R. Edwards yn yr ail o’r sgyrsiau gan drafod albwm newydd Datblygu, Porwr Trallod, ac am hanes y grŵp arloesol.

Mae’r ddwy sgwrs yn cael eu cynnal yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ochr yn ochr â Ffair Recordiau Gwobrau’r Selar sy’n digwydd yn yr Hen Goleg rhwng 11:00 a 16:00 ar 20 Chwefror.

Ail-ryddhau record brin

Mae’r sgwrs gydag aelodau Y Trwynau Coch yn cydfynd â’r newyddion am ail-gyhoeddi record 7” prin sy’n cynnwys cân gan y grŵp, ynghyd â 3 grŵp arall o ddiwedd y 1970 yn cael ei ail-gyhoeddi.

Rhyddhawyd y record yn wreiddiol ar label Recordiau Coch ym 1979, a gan mai nifer cyfyngedig o gopïau a gynhyrchwyd mae wedi bod yn record prin a digon casgladwy.

Yna, rhai misoedd yn ôl, darganfyddodd canwr Y Trwynau Coch, Rhys Harris focs yn llawn copïau o’r recordiau feinyl, heb gloriau yn yr atig , ac aeth ati i holi’r casglwr recordiau, Toni Schiavone, beth ddylai wneud â hwy.

“Roedd rhyw 150 o gopïau, ond y drwg oedd bod dim cloriau iddyn nhw, dim ond y recordiau feinyl” meddai Toni Schiavone.

“Ar ôl pendroni am ychydig, dyma benderfynu argraffu cloriau newydd, tebyg i’r rhai gwreiddiol a’u hail-ryddhau fel rhyw fath o reissue. Gan ein bod ni’n bwriadu cynnal Ffair Recordiau i gydfynd â Gwobrau’r Selar, roedd yn ddyddiad amlwg i wneud hynny.”

Ffair a sgwrs

Mae’r record 7″ yn un split ac mae’r grwpiau eraill ar y record yn rai digon difyr hefyd fel yr eglura Rhys Harris.

“Mae’r record yn un ddifyr gyda chân ganddom ni [Y Trwynau Coch] a thri band ifanc arall o’r cyfnod”.

“Roedd Tanc a Crach yn ddau grŵp arall o ardal Abertawe, a Cyffro yn fois o Gaernarfon. Criw o fechgyn o Gwmtawe oedd Crach a nhw oedd grŵp cyntaf Huw Chiswell, ddaeth yn aelod o Y Trwynau Coch wedyn. Roedd Tanc yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, ac un o’r aelodau oedd Siân Thomas sy’n fwy adnabyddus fel cyflwynwraig Heno erbyn hyn.”

Bydd y fersiwn newydd o’r recordiau ar werth am y tro cyntaf (ac efallai y tro olaf) yn Ffair Recordiau Gwobrau’r Selar, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn achub ar y cyfle i gael gafael ar un.

Dau gopi o’r record dan sylw – y clawr gwreiddiol ar y dde, a’r fersiw newydd ar y chwith.