Skep yng Nghaerdydd heno

Os ydach chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud yng Nghaerdydd heno, yna mae’n werth i chi daro draw i 10 Feet Tall ar gyfer cymysgedd fach flasus o gerddoriaeth electoneg a hip-hop.

Mae’r grŵp hip-hop ardderchog sy’n cael ei arwain gan y trwbadŵr Dai Lloyd, oedd yn gyfrifol am label pwysig Dockrad, yn perfformio yno yn yr hyn a allai fod yn gig olaf iddyn nhw.

Roedd Skep yn fan lled gynhyrchiol yn ystod degawd gyntaf y mileniwm, gan ryddhau EP cyntaf, Bingo, yn 2001 a thri albwm – Static yn 2002, Ctrl-S yn 2004 a Sgep yn 2008.

Wedi cyfnod hir heb berfformio ac wrth ddechrau llithro i mewn i lyfrau hanes y sin, fe wnaethon nhw atgyfodi ar gyfer gig arbennig i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod eleni, ac maen nhw wedi penderfynu gwneud gig bach arall yng Nghaerdydd heno.

Maen nhw’n weddol amwys ynglŷn â dyfodol y grŵp, ond wedi awgrymu wrth hyrwyddo’r gig heno y gallai fod yn gig olaf Skep.

Mae’r grŵp electroneg o Aberystwyth, Roughion, yn cefnogi felly mae’n argoeli i fod yn mosh fach dda yn 10 Feet Tall.

Dyma fideo bach o Yyh? gan Skep i roi blas i chi o’r hyn y gallwch chi ddisgwyl.