Bydd y grŵp pop amgen gwych, HMS Morris, yn cynnal cyfres o gigs ym mis Hydref wrth iddyn nhw baratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf y mis canlynol.
Mae’r daith fer yn dechrau yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd nos Wener nesaf, 7 Hydref. Byddan nhw wedyn yn hwylio dros y ffin yr wythnos wedyn gan ymweld â Mr Wolfs ym Mryste ar nos Iau 13 Hydref, ac yna Ryan’s N16 yn Llundain y noson ganlynol.
Bydd y daith yn dod i ben wythnos yn ddiweddarach gyda gig yn y Parot yng Nghaerfyrddin ar nos Wener 21 Hydref, ac yna Telford’s Warehouse yng Nghaer ar nos Sadwrn 22 Hydref.
Fe fydd y daith yn cynnig cyfle i weld caneuon yr albwm yn cael eu perfformio’n fyw, gan gynnwys y sengl ‘From the Neck Down’, sy’n cael ei rhyddhau ar 4 Tachwedd.
I gyd-fynd â’r sengl, bydd fideo wedi’i gynhyrchu gan yr enigma Eilir Pearce yn cael ei ryddhau ar yr un diwrnod.
18 Tachwedd ydy dyddiad rhyddhau’r albwm ar label Waco Gwenci, ac a fydd ar gael ar fformat CD a digidol
“Mae’r albwm yn gasgliad o ganeuon ‘y ni wedi bod yn chwarae a chyfansoddi dros y tair blynedd diwethaf” meddai Heledd Watkins o’r grŵp wrth Y Selar.
Ac mae newyddion da i unrhyw un sy’n mynd i weld y grŵp yn perfformio’n fyw y mis yma, oherwydd yn ôl Heledd bydd y CD ar werth yn y gigs, cyn bod ar gael i’w brynu ar-lein o’r deunawfed ymlaen.