The Gentle Good ar Radio 2

Mae wedi bod yn wythnos dda i’r cerddor o Gaerdydd, The Gentle Good, wrth i’w gerddoriaeth gael ei glywed ar y cyfryngau prif ffrwd Prydeinig

Roedd y cerddor gwerin, sydd hefyd yn adnabyddus fel Gareth Bonello, ar raglen The Folk Show ar Radio 2 nos Fercher diwethaf.

Os golloch chi y rhaglen, mae’n werth gwrando nôl i glywed sgwrs Gareth gyda’r cyflwynydd Mark Radcliffe a’i sesiwn fyw arbennig ar y rhaglen. Mae ganddoch chi 25 diwrnod i wneud hynny!

Mae Georgia Ruth Williams, Jennifer Gallichan a Jonathan Price Williams yn ymuno â Gareth i berfformio’n fyw ar y rhaglen, gan berfformio tair cân o’r albwm newydd ‘Ruins / Adfeilion’ gan gynnwys fersiynau arbennig o wefreiddiol o ‘The Fisherman’ a ‘Pen Draw’r Byd’.

Ar y rhaglen, mae Gareth a Mark Radcliffe yn trafod pethau mor amrywiol â chystadlu yn yr eisteddfod, adar prin Prydain a chyfnod Gareth yn China yn cyfansoddi ‘Y Bardd Anfarwol’.

Ac fel ceiriosen fach felys ar y gacen, mae Huw Stephens wedi dewis cerddoriaeth o’r albwm Ruins / Adfeilion gan The Gentle Good ar ei restr chwarae ‘Canyonlands’ i gyd-fynd â lluniau awyr arbennig o’r gyfres Planet Earth 2.

Y rhestr chwarae gan Huw ydy’r ddiweddaraf gan DJs Radio 1 i gyd-fynd â’r gyfres boblogaidd ar BBC1, ac mae’r cyfuniad o’r lluniau trawiadol ynghyd â’r gerddoriaeth hyfryd yn haeddu hanner awr o’ch hamser.