Y Bandana’n gorffen mewn steil – gwerthu 500 tocyn i’r gig olaf

Mae tocynnau gig olaf Y Bandana, sy’n cael ei gynnal yn Neuadd y Farchnad yng Nghaernarfon ar 14 Hydref, i gyd wedi’u gwerthu ymhell ymlaen llaw, gall Y Selar gadarnhau.

Efallai na ddylai’r newyddion hwn fod yn syndod – wedi’r cyfan, dros y blynyddoedd mae’r grŵp wedi llwyddo i adeiladu cynulleidfa gref o ddilynwyr brwd gan lenwi gigs yn rheolaidd. Gellir dadlau eu bod nhw wedi bod yn ganolog i adfer y sin fyw dros y pump neu chwe blynedd ddiwethaf, gan osod model i grwpiau fel Candelas a Sŵnami ei efelychu wrth adeiladu dilyniant.

Wedi dweud hynny, oni bai mai Bryn Fôn ydy’ch enw chi, mae gwerthu 500 o docynnau i gig bythefnos cyn y digwyddiad yn ddigon o gamp, ac mae’n brawf pellach o boblogrwydd y grŵp o Gaernarfon a gyhoeddodd ar ddechrau’r haf eu bod nhw’n chwalu.

Roedd 400 o docynnau ar gyfer y gig wedi eu rhyddhau’n wreiddiol , a’r rheiny wedi gwerthu mewn rhyw bum niwrnod yn ôl Tomos Owens o’r grŵp.

Yna, aeth y 100 o docynnau olaf ar werth fore dydd Sadwrn diwethaf yn siop Palas Print, gan werthu i gyd mewn cwta ugain munud gyda phobl yn ciwio ar y stryd cyn i’r siop agor i sicrhau eu tocyn.

Mae Y Bandana eisoes wedi chwarae eu gig olaf yn Ne Cymru nos Sadwrn diwethaf, pan oedden nhw’n perfformio yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd.

Efallai nad oedd tocynnau’r gig hwnnw wedi gwerthu i gyd ymlaen llaw, ond fe wnaethon nhw ar y drws ac roedd hi’n llawn dop gyda 250 o bobl yn mwynhau’r gig ar y noson.

Fe fydd Rifleros a Ffracas yn cefnogi Y Bandana yn eu gig olaf yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar 14 Hydref.