Mae Yucatan wedi cyhoeddi manylion taith yn ogystal ag albwm newydd ym mis Ionawr.
Canwr The Charlatans, Tim Burgess, sy’n trefnu’r daith fel rhan o ymgyrch Independent Venues Week sy’n digwydd yn ystod wythnos olaf mis Ionawr.
Yn ogystal â Yucatan, bydd dau grŵp arall sef Documenta a Horsebeach, yn perfformio ar y daith sy’n ymweld â thri lleoliad yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Mae cymal Cymreig y daith yn ymweld â Neuadd Ogwen ym Methesda ar nos Sadwrn 28 Ionawr.
“Ddaru Tim Burgess gynnig y daith i Yucatan ac roedd Independent Venues Week isho ni ddewis feniw sy’n lleol i ni” meddai Dilwyn Llwyd, ffryntman Yucatan wrth Y Selar.
“Felly nes i’n amlwg awgrymu’r neuadd [Ogwen] gan mai fi ydy’r rheolwr.”
Canolfannau bach yn bwysig
Tim Burgess ydy llysgenad Independent Venues Week eleni, ac mae’n dilyn ôl traed Wolf Alice (2016), Frank Turner (2015) a Colin Greenwood o Radiohead (2014) wrth wneud hynny.
Bwriad yr wythnos, sy’n digwydd rhwng 23 a 29 Ionawr, ydy tynnu sylw at bwysigrwydd canolfannau bach i’r diwydiant cerddoriaeth ym Mhrydain a bydd 120 o ganolfannau annibynnol yn cynnal gig yn ystod yr wythnos fel rhan o hynny.
Fel rhan o’i rôl roedd gofyn ar Burgess – sy’n aelod o’r grŵp indî enwog The Charlatans, a ddaeth i amlygrwydd yn ystod y 1990au – gynnal taith gan ddewis rhai o’i hoff fandiau i berfformio.
Efallai nad yw’n syndod ei fod wedi dewis Yucatan gan ei bod yn hysbys ei fod yn hoff o’r band o Ogledd Cymru.
“Ydy, mae o’n ffan o gerddoriaeth Yucatan” cadarnha Dilwyn.
“Ma Tim wedi helpu ni dipyn. ‘De ni wedi cefnogi Charlatans, ac mae o wedi rhoi ni ar lein-yps nifer o wyliau mawr yn y gorffennol.”
I gyd-fynd â’r daith, mae label Tim Burgess, O Genesis Records, yn rhyddhau casgliad o ganeuon gan y tri grŵp sy’n perfformio.
Mae’r record yn cynnwys dwy gân yr un gan bob band – un yn gân wreiddiol, a’r llall yn fersiwn cyfyr o gân un o’r bandiau eraill sydd ar y daith.
‘Llethol’ ydy’r trac gwreiddiol gan Yucatan ar y casgliad, ac maen nhw wedi recordio fersiwn o ‘Faded Eyes’ gan Horsebeach tra bod Documenta wedi recordio fersiwn o un o ganeuon Yucatan, sef ‘Word Song’.
Mae tocynnau’r gig ym Methesda ar werth nawr am bris rhesymol iawn o £5.