Mae trefnwyr y Ddawns Rhyng-gol flynyddol wedi cyhoeddi lein-yp gig mawr y penwythnos eleni.
Cynhelir y Ddawns Rhyng-gol yn Aberystwyth bob blwyddyn, ac fe’i threfnir gan UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth).
Mae’r gig, a gynhelir eleni ar nos Sadwrn 19 Tachwedd, wedi’i hen sefydlu fel un o gigs mwyaf y flwyddyn gyda tua mil o fyfyrwyr Cymraeg yn heidio i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.
Datgelwyd enwau’r artistiaid sy’n perfformio eleni gan UMCA ddoe, gan gynnwys enw Yws Gwynedd fel hed-leinar y gig eleni.
Hefyd yn perfformio ar y noson fydd y grŵp lleol o Aberystwyth, Mellt, ynghyd a Brython Shag, Omaloma a’r grŵp newydd o ardal Caerfyrddin, Los Blancos.
Roedd Yws Gwynedd yn ddewis amlwg fel prif atyniad eleni’n ôl llywydd UMCA, ar prif drefnydd, Rhun Dafydd.
“Mae’r band yn hynod o boblogaidd ar y funud a dwi’n meddwl fod myfyrwyr cyfredol Prifysgolion yn ddigon hen i gofio dyddiau Frizbee felly mae sŵn Yws yn fwy perthnasol iddyn nhw” meddai Rhun.
“Bydd y Ddawns Ryng-gol yn gyfle prin iawn i glywed Yws sydd ddim yn chwarae eto tan y flwyddyn newydd.”
“Dwi’n meddwl gwneith Mellt greu argraff ar y gynulleidfa – am rhyw reswm dyw’r band ddim yn cael gymaint o glod ag y maen nhw’n ei haeddu, felly bydd yn gyfle i bobl sylwi pa mor dda yw’r tri wrth chwarae’n fyw.”
Dau ddewis amlwg ar gyfer y gig felly, ond mae Los Blancos, a gafodd sylw yn eitem Pump i’r Penwythnos Y Selar rai wythnosau nôl, yn ddewis mwy amgen ar gyfer y lein-yp.
“O ran Los Blancos , maen nhw’n gyn aelodau UMCA ac ro’n i wastad eisiau rhoi llwyfan i fand newydd ‘lleol’ yn y Ddawns, dwi’n credu ei fod yn hanfodol i ni roi’r cyfle i fandiau newydd fel Los Blancos i chwarae. Hefyd mae’r gân ar Soundcloud, Clarach wedi bod yn stuck yn fy mhen ers tro!”
Mae tocynnau £10 ymlaen llaw, neu £12 ar y drws, ac ar gael trwy swyddfa UMCA.