10 Uchaf – Caneuon Geraint Jarman

Nos yfory yn Neuadd Pantycelyn fe fyddwn ni’n dathlu gyrfa anhygoel Geraint Jarman mewn gig i nodi ei wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ yng Ngwobrau’r Selar eleni.

Dros y ddeuddydd diwethaf buom yn cynnal pôl piniwn i ddewis deg cân orau Geraint Jarman dros y degawd diwethaf. Mae’r dewis yn eang, a bron yn amhosib (dyna pam roedd angen eich help chi!) ond mae gennym ganlyniad ac roedd un cân yn glir ar frig y rhestr.

Dyma 10 uchaf caneuon Jarman….

10. Sgip ar Dân

Un o ganeuon mwyaf adnabyddus Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, a gafodd ei rhyddhau ar drydydd albwm Jarman, Hen Wlad Fy Nhadau, ym 1978. Dyma’i record gyntaf go iawn gyda’r Cynganeddwyr, ac mae’n un o’i oreuon gyda llond trol o ganeuon cofiadwy, gan gynnwys hon.

9. Gobaith Mawr y Ganrif

Trac cyntaf albwm cyntaf Geraint Jarman, sy’n rhannu enw’r casgliad. Rhyddhawyd yr albwm yn Eisteddfod Aberteifi ym 1976, ac mae’n briodol bod hon ar y rhestr. Mae’n gân ddychanol sy’n nodweddu albwm oedd yn torri tir newydd yn y Gymraeg.

8. Bourgeois Roc

Mae hon ar ail albwm Jarman, Tacsi i’r Tywyllwch a recordiwyd yn fuan ym 1977 ac a gynhyrchwyd gan Geraint ei hun. Mae’r gân yn gyfeiriad at y siwpyr grŵp, Injaroc, oedd yn cynnwys cyn aelodau o Sidan ac Edward H Dafis ymysg eraill…ac oedd yn brosiect digon trychinebus a ddaeth i ben mewn llai na blwyddyn.

7. Methu Dal y Pwysa

Y gan reggae gyntaf ar y rhestr, ac un o’i ganeuon reggae gorau yn hynny o beth – fyddai hon ddim yn swnio allan o’i lle ar strydoedd Trench Town yn Jamaica. Un arall sy’n ymddangos ar Hen Wlad Fy Nhadau.

6. Diwrnod i’r Brenin

Trac olaf yr albwm sy’n rhannu enw’r gân, ac a ryddhawyd ym 1981. Mae hon yn record o ddwy hanner…oedd yn gweddu ar gyfer record feinyl wrth gwrs. Mae’r ochr 1 yn cynnwys 6 trac a ysgrifennwyd ar gyfer cyngerdd Y Mabinogi, ac ochr 2 yn cynnwys pedair cân reggae, a Diwrnod i’r Brenin yr amlycaf ohonyn nhw.

5. Cŵn Hela

Yr unig drac ar y rhestr sy’n dod o albwm Fflamau’r Ddraig (1980), sy’n un o albyms gorau Jarman. Roedd yn record arloesol yn y Gymraeg – y gyntaf i’w recordio yn stiwdio newydd Sain yn Llandwrog yn un peth, ond hefyd yn record wleidyddol dros ben. Nodweddion amlycaf hon ydy’r sŵn synth trawiadol ar y dechrau a riffs cofiadwy Tich Gwilym ar y gitâr. Dipyn o diwn.

4. Ambiwlans

Mae hon yn glamp o gân, o bosib campwaith mwyaf Geraint Jarman. Cafodd ei rhyddhau ar ei ail albwm, Tacsi i’r Tywyllwch, ac mae gân dywyll a dwys – mae’r adeiladwaith ynddi’n wych. Bydd yn gyfarwydd hefyd i unrhyw un sydd wedi gweld y ffilm Yr Alcoholig Llon, gyda Dafydd Hywel yn serennu ac mae’n gweddu i’r dim â naws lleddf y ffilm.

3. Gwesty Cymru

Un o’i ganeuon enwocaf sy’n dal i fod yn ffefryn gan Radio Cymru. Mae hon ar yr albwm o’r un enw a ryddhawyd ym 1979 a sydd, fel Fflamau’r Ddraig, yn ddigon gwleidyddol ei naws.

“Gwesty Cymru, does neb yn talu

Er bod pawb yn prynu, yng Ngwesty Cymru”

2. Merch Tŷ Cyngor

Y drydedd gân ar y rhestr a ddaw o’r albwm Hen Wlad Fy Nhadau, ac mae hon yn glasur. Mae’r trac yn esiampl berffaith o ragoriaeth y grŵp roedd wedi’i adeiladu o’i gwmpas gydag organ Richard Dunn, gitâr Tich, drymio Cat Croxford a bas John Morgan yn plethu’n hynod o brydferth yn y rhannau offerynnol rhwng y penillion. Hyfryd iawn.

1. Ethiopia Newydd

Cân arall o Hen Wlad Fy Nhadau sydd ar frig y rhestr, a’r gân agoriadol sy’n gosod y naws ar gyfer gweddill y casgliad arbennig yma o ganeuon. Unwaith eto mae’r synths yn serennu yn ogystal â riff gitâr enfawr Tich Gwilym a’r gytgan fachog. Mae cyfyr Steve Eaves o’r gân bron mor enwog a fersiwn wreiddiol Jarman, ond mae’r fersiwn honno’n deyrnged gan gerddor gwych arall i fawredd y wreiddiol mewn gwirionedd. Anthem.

Mae Geraint Jarman yn perfformio mewn gig arbennig yn Neuadd Pantcelyn nos fory, sef nos Wener 17 Tachwedd, gyda chefnogaeth gan The Gentle Good.