Adolygiad: Cylchoedd yn y pridd – Gwyllt

Mae cân newydd Gwyllt yn sengl wych, yn funky a bachog gyda rapio yn arddull Genod Droog.

Cyfansoddodd Amlyn Parry’r gân ar ôl sylweddoli cyn lleied roedd o’n ei wybod am ei ardal ei hun.

Gyda sain sy’n atgoffa rhywun o Pep Le Pew mae’n amlwg fod y grŵp hwnnw wedi dylanwadu ar Gwyllt, a’r geiriau gwleidyddol gyda’r brawddegau Saesneg yn effeithiol dros ben.

Cân sydd wedi ei chynhyrchu’n wych diolch i waith celfydd Frank Naughton, mae hon wedi datblygu’n un o fy hoff ganeuon yr haf hwn.

Os ’da chi’n hoffi sain funky Alun Gaffey ma’ hon yn must!

Prynwch ‘Cylchoedd yn y Pridd’ gan Gwyllt ar Bandcamp nawr.

Geiriau: Rhys Tomos