Adolygiad: Ddoe, Heddiw a ’Fory – Candelas

O’r nodyn cyntaf mae’r sengl newydd yma gan Candelas yn swnio’n ffresh ond eto’n gyfarwydd i ni fel sŵn arbennig y band.

Dydi hon ddim mor drymaidd â thraciau fel ‘Anifail’ neu ‘Cadno’, sydd yn rhoi mwy o le i’r iaith gyfoethog mae Candelas yn ei ddefnyddio i gyfleu stori ac emosiwn y gân.

Unwaith eto, mae’r geiriau ’ma sydd yn llawn delweddau mor gryf yn cael eu hatgyfnerthu gan offeryniaeth glyfar a llinell gitar anhygoel!

Rhywsut, mae hon yn swnio fel y bysa hi wedi ffitio i mewn yn iawn yng nghanol Bodoli’n Ddistaw, ond eto mae ’na rhywbeth gwahanol amdani sydd ella yn arwydd o’r hyn sydd i ddod gan y band. Edrych ymlaen!

<iframe width=”100%” height=”166″ scrolling=”no” frameborder=”no” src=”https://w.soundcloud.com/player/?url=https%3A//api.soundcloud.com/tracks/326971138&amp;color=%23ff5500&amp;auto_play=false&amp;hide_related=false&amp;show_comments=true&amp;show_user=true&amp;show_reposts=false&amp;show_teaser=true”></iframe>

Geiriau: Elain Llwyd