Adolygiad: Llythyr y Glowr – Colorama

Cân brydferth o felancolaidd yw hon.

Er mai llythyr ffarwel yw’r geiriau mae awgrym o obaith a dymuno’n dda iddynt, a’r gerddoriaeth yn ategu hynny. Gallai’r dôn fod yn gân upbeat, gyda’r gitâr hamddenol hyfryd yn agor, a’r bît ysgafn.

Gallai llais swynol Carwyn fod yn canu geiriau hapus a braidd fod tristwch yn ei lais.

Gallai’r llinynnau a’r lleisiau cefndirol fod yn hwyliog ac egnïol yn hytrach nag ychwanegu at dristwch y geiriau. Mae’r solo ffidil sydd yn gorffen y gân hefyd â rhywbeth chwareus o drist amdano.

Cân i godi calon yw hon a’r geiriau a’r sŵn yn dweud nad yw pethau cynddrwg.

Bethan Williams