Albwm a thaith Patrobas

Mae’r grŵp gwerin o Ben Llŷn, Patrobas, wedi cyhoeddi y bydd eu halbwm cyntaf, ‘Lle awn ni nesa?’, allan cyn diwedd mis Mehefin eleni.

Patrobas ydy Wil Chidley, Iestyn Tyne, Carwyn Williams a Gruffydd Davies, ac fe ffurfiwyd y grŵp dros dair blynedd yn ôl.

Rhyddhawyd eu cynnyrch cyntaf ar ffurf sengl ‘Meddwl ar Goll’ fel rhan o Glwb Senglau’r Selar ym Mehefin 2015, a yna ymddangosodd eu EP cyntaf ‘Dwyn y Dail’ yn hwyrach y flwyddyn honno. Mae’r grŵp wedi parhau i fynd o nerth i nerth ers hynny gan gigio’n rheolaidd yn ystod 2016.

Aeddfedu

Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm cyntaf, dywed y grŵp bod yr aelodau i gyd wedi cael cyfle i ‘aeddfedu ​yn ei ffordd eu hun, boed hynny trwy wrando ar fathau gwahanol o gerddoriaeth, gafael mewn offeryn gwahanol neu gael eu hysbrydoli gan ddigwyddiad pwysig dros y flwyddyn.’

Roedd treulio amser yn Y Llofft, Fic Llithfaen yn ran hanfodol o’r broses ysgrifennu i Patrobas yn ôl y grŵp, a chanlyniad y cyfnod yma oedd 10 cân newydd sbon fyddai’n cael lle ar yr albwm newydd.

Er bod eu sŵn wedi datblygu, mae Patrobas wedi cadw at y rysáit sydd wedi gweithio o safbwynt cynhyrchu’r albwm gan weithio unwaith eto gydag Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) oedd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu Dwyn y Dail.

Dynameg newydd

Mae’r tîm yn un cyfarwydd felly, ond mae agwedd a dynameg newydd i’w glywed ar yr albwm yn ôl yr aelodau.

“Mae’r sŵn wedi datblygu dros y flwyddyn ddwytha’ wrth i ni ymgartrefu ar lwyfannau gwahanol bron iawn yn wythnosol, a chael y cyfle i drio petha’ newydd” medda’r gitarydd a chanwr Wil Chidley.

Iestyn Tyne sy’n chwarae’r ffidil a’r mandolin i Patrobas ac mae’n credu bod profiadau newydd diweddar yr aelodau’n golygu eu bod nhw’n mynd ati i gyfansoddi mewn ffordd wahanol erbyn hyn.

“Dwi’n meddwl fod gadael adra, i rai ohonom ni beth bynnag, byw mewn llefydd gwahanol, teithio, cyfarfod pobl wahanol a chanu mewn bandiau gwahanol i gyd wedi effeithio ar y ffordd o fynd ati i gyfansoddi” meddai Iestyn.

“Bellach mae gynno’ ni gwpl o flynyddoedd o brofiad ar ben yr EP, ac mae hynny’n hollbwysig. Hefyd, mae sefyllfaoedd gwleidyddol a dyneiddiol diweddar wedi sbarduno lot o be dwi bod yn sgwennu.”

Yn ogystal â manylion rhyddhau’r albwm, mae Patrobas wedi cyhoeddi eu rhestr gigs dros y misoedd nesaf…ac mae’n mynd i fod yn haf prysur iddyn nhw yn ôl pob golwg! Mae’r rhestr lawn o ddyddiadau isod.

Rhestr gigs haf Patrobas:

27 Mai – Dawns Ffermwyr Ifanc Eryri, Efailnewydd

20 Mehefin – Pontio, Bangor

30 Mehefin – Canna Deli, Pontcanna (16:00)

30 Mehefin – Y Parlwr, Splott, Caerdydd

02 Gorffennaf – Tafwyl, Caerdydd

04 Gorffennaf – Clwb y Bont, Pontypriff

08 Gorffennaf – Gŵyl Arall, Caernarfon (prynhawn)

08 Gorffennaf – Y Llew Coch, Dinas Mawddwy

13 Gorffennaf – Canolfan y Felin Uchaf, Rhoshirwaun

14 Gorffennaf – Llofft, Tafarn y Fic, Llithfaen

15 Gorffennaf – Tafarn Tŷ Coch, Porthdinllaen

29 Gorffennaf – Gŵyl Cwrw Llŷn, Nefyn

04-13 Awst – Gigs amrywiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol

15 Awst – ‘Settlement Stage’, Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Cryghywel

15 Medi – Gŵyl Gwrw Llanbedr, Llanbedr