Albwm Calfari

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar eu stepen drws, bydd y grŵp o Ynys Môn, Calfari, yn rhyddhau eu halbwm cyntaf erbyn y brifwyl eleni.

Bydd yr albwm yn dilyn dau EP sydd eisoes wedi’u rhyddhau gan Calfari sef Nôl ac Ymlaen, a ryddhawyd yn 2015 ac a enillodd deitl ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar, a Tân a ryddhawyd yn 2016.

Fel y ddau EP, mae’r casgliad hir newydd wedi’i recordio gyda’r cynhyrchydd Rich Roberts yn Stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth. Ond yn wahanol i’r cynnyrch blaenorol, yn hytrach na dim ond Bryn, Tomos a Siôn o’r grŵp yn ysgrifennu’r caneuon, mae holl aelodau’r band wedi cyfrannu a chyd-weithio wrth gyfansoddi’r albwm.

Nid ar chwarae bach mae’r grŵp wedi recordio’r albwm newydd chwaith, dechreuodd y gwaith yn y stiwdio reit nôl yn Mehefin 2016 ac mae wedi cymryd blwyddyn i gwblhau’r gwaith recordio.

Newid cyfeiriad

Bydd rhai o’r caneuon yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweld Calfari’n perfformio’n fyw dros y misoedd diwethaf, ond yn ôl y band byddan nhw’n swnio bach yn wahanol ar record ar ôl i Rich ychwanegu rhywfaint o’i lwch hud iddyn nhw.

Gan bod y Steddfod yn ymweld ag Ynys Môn fis Awst, mae’n gyfle amlwg i’r grŵp sicrhau’r sylw mwyaf posib i’w record hir gyntaf, ac maen nhw’n gobeithio rhyddhau’r albwm yn ddigidol ar ddechrau mis Gorffennaf. Y bwriad wedyn ydy rhyddhau copïau caled tuag at ddiwedd yr haf ym mis Medi.

Mae sŵn roc ysgafn Calfari wedi dod yn gyfarwydd i gynulleidfaoedd ledled Cymru, ond mae rhywfaint o newid cyfeiriad yn sŵn caneuon yr albwm yn ôl yr aelodau. Gallwn ddisgwyl mwy o sŵn pop ac indie ar y casgliad newydd, a hyd yn oed sŵn trymach ar ganeuon fel ‘Dyddiau Gwell’ sydd eisoes i’w chlywed ar safle Soundcloud Calfari.

Er bod y grŵp yn cadw’n driw i’w sŵn traddodiadol sy’n cael ei yrru gan y gitars, maen nhw wedi ychwanegu offerynnau newydd fel synths i’r casgliad newydd ac yn dwyn dylanwadau o gerddoriaeth electroneg a trance yn ôl y grŵp.

Yn ogystal â chyhoeddi manylion rhyddhau eu halbwm, mae Calfari wedi cyhoeddi eu rhestr gigs ar gyfer y misoedd nesaf, ac maen nhw’n mynd i fod yn brysur iawn yn ôl pob golwg gyda gigs ym Môn, Gwynedd, Ceredigion a Phowys rhwng hyn a dechrau mis Awst.

Gigs Calfari

10 Mehefin (Dydd): Gŵyl Cefni

10 Mehefin (Nos): Sioe Ogwen, Neuadd Ogwen, Bethesda

17 Mehefin (Dydd): Maes Caernarfon

17 Mehefin (Nos): Noson Lawen, Pontio, Bangor

14 Gorffennaf: Gig Urdd Ceredigon, Llanbed

16 Gorffennaf: Electric Wave Festival, Conwy

23 Gorffenaf: Penmaenau Farm, Y Sioe Frenhinol

5 Awst (Dydd): Llwyfan Y Maes, Steddfod Genedlaethol

5 Awst (Nos): Gig Cymdeithas yr Iaith, Bodedern

7 Awst: Gig wythnos ‘Sdeddfod, Iorweth Arms, Bryngwran

8 Awst: Caffi Maes B, ‘Steddfod Genedlaethol

10 Awst: Maes B, ‘Steddfod Genedlaethol