Albwm Casset allan ddiwedd Hydref

Mae’r grŵp Casset wedi datgelu bydd eu halbwm cyntaf allan yn swyddogol ddiwedd y mis.

Bydd y record yn rhannu enw’r grŵp, fel yr eglura’r aelodau – “gan mai ein halbwm cyntaf fydd o, oedda ni’n meddwl jyst ei alw’n Casset i gael ein henw allan”.

Mae’r aelodau’n cynnwys tri brawd o Sir Drefaldwyn, sef Mabon Gwyn, Gwern Ap Gwyn a Llewelyn Ap Gwyn.

Bu Gwyn, eu tad, sef ‘Gwyn Maffia’ – drymiwr y grŵp chwedlonol o’r 80au, Maffia Mr Huws, yn cynhyrchu a mastro’r albwm sy’n cael ei ddisgrifio gan y band fel “blues rock”.

Wrth drafod cynlluniau rhyddhau’r record hir, meddai Casset wrth Y Selar eu bod yn bwriadu trefnu dyddiadau gigs er mwyn ei hyrwyddo.

Gan bod Mabon (y brawd hynaf) yn byw yng Nghaerdydd, mae’n gallu golygu bod trefnu dyddiadau gigs yn anos, ond dywed y grŵp bod y ffaith eu bod yn frodyr hefyd yn ei gwneud hi’n haws dod at eu gilydd yn aml, fel yr eglura Gwern…

“Gan bod swyddi’n newid o hyd, gall hyn fod yn drafferth – a mae gan Mabon fywyd yng Nghaerdydd tra dwi a Llew dal adre – ond da ni’n ffeindio ffyrdd i ddod at ein gilydd yn ddigon hawdd hefyd.”

Bydd Casset yn cyhoeddi union ddyddiad rhyddhau yr albwm yn fuan.