Albwm Cernyweg cyntaf Gwenno ar y ffordd

Mae Gwenno wedi cyhoeddi ei bod yn paratoi i ryddhau i ryddhau ei halbwm diweddaraf yn y gwanwyn.

Mae’r artist pop electroneg o Gaerdydd wedi cael seibiant haeddiannol ers rhyddhau ei halbwm Gymraeg gwych Y Dydd Olaf yn 2015 – record gipiodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn gan yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal â’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig.

Cyhoeddodd ei label, Heavenly Records, yn ddiweddar bod albwm newydd ar y gweill gan Gwenno, yn ogystal â dyddiadau gigs i’w rhoi yn y calendr.

Un o fil

‘Le Kov’ fydd enw’r casgliad newydd, cc mae’r pwyslais o amddiffyn ieithoedd lleiafrifol yn dal yr un mor gryf ar yr albwm newydd ag yr oedd ar yr un blaenorol ganddi.

Ond, yn wahanol i Y Dydd Olaf, bydd yr holl ganeuon wedi eu hysgrifennu yn y iaith Gernyweg, sef un o famieithoedd Gwenno – mae’r gantores yn un o’r mil yn unig o bobl sy’n siarad yr iaith yn rhugl.

Nid dyma’r tro cyntaf iddi ryddhau caneuon yn y Gernyweg, bydd nifer yn cofio am y trac ‘Amser’ oedd yn cloi y Y Dydd Olaf.

Os na allwch aros nes y gwanwyn, mae Gwenno wedi rhyddhau fideo byr fel ‘trailer’ ar gyfer yr albwm newydd:

Mae dau ddyddiad perfformio wedi’u cadarnhau’n barod gan Gwenno, sef Gwener 1 Rhagfyr yn y Redhouse ym Merthyr Tudfil a dydd Sadwrn 2 Rhagfyr yn y Poly, Flamouth.

Mae posib prynu tocynnau o wefan Gwenno nawr.